Ateb y Galw: Helen Prosser
- Cyhoeddwyd
Mae Helen Prosser yn gweithio fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg a hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni.
Cafodd Helen ei magu yn Nhonyrefail ac fe astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Y llynedd cafodd ei hanrhydeddu gan y Brifysgol gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwaith fel tiwtor Cymraeg.
Dyma ddod i adnabod Helen ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Atgof trist, yn anffodus. Adeg trychineb Aberfan dw i'n cofio tadau yn Nhonyrefail yn mynd draw i helpu. Doeddwn i ddim yn deall beth oedd wedi digwydd ond roedd yn amlwg yn rhywbeth mor anarferol, roedd wedi creu argraff.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dinbych-y-Pysgod. Pam? Achos bod fy Mam yn dod o Dalacharn yn wreiddiol a threulien ni bob gwyliau haf yna, gyda thaith flynyddol i Ddinbych-y-Pysgod. A ble aethon ni ar ein mis mêl - i Sir Benfro a gweld Jurassic Park yn y sinema yn Ninbych-y-Pysgod achos ei bod hi'n bwrw glaw.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae eto i ddod - yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad ym mis Awst.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gweithgar. Brwdfrydig. Angherddorol (bydd pobl sy'n fy nabod yn deall).
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Cael fy nhaflu mas o'r llys ym Mhontypridd tra'n cefnogi Gareth Miles mewn achos gyda Chymdeithas yr Iaith. Gorchymyn swyddog y llys i ni'r cefnogwyr oedd 'No smiling in court'. Chwarddais a mas â fi!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae yna lawer ohonyn nhw ond un o'r gwaethaf yw gyrru mewn i dwll anferth wrth geisio troi'r car. Cafodd y dynion yn y dafarn leol lawer o hwyl yn codi'r car mas o'r twll.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dw i'n crio drwy'r amser - ond am bethau hapus.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mynd i banig yn syth os bydd unrhyw broblem gyda'r gliniadur, yn lle aros am 10 eiliad.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dw i ddim yn gwylio llawer o ffilmiau ond mae llyfrau'n bwysig iawn i fi ac mae'n amhosib enwi un. Ond mae Cysgod y Cryman yn bwysig iawn i mi achos darllenais i fe yn ystod fy ngwyliau haf yn y chweched dosbarth pan oeddwn i'n dysgu'r Gymraeg yn Ysgol Gyfun Tonyrefail.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Fy hen, hen Dad-cu. Wrth glirio sied fy Nhad-cu, des i o hyd i lechen oedd wedi'i bwriadu ar gyfer bedd fy hen, hen Dad-cu ac roedd yn uniaith Gymraeg.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae unrhyw un sy'n dod am dro gyda fi yn y wlad yn gorfod dal fy llaw a dioddef fy sgrechian os oes rhaid pasio buwch.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Does dim ots beth byddwn i'n ei wneud, ond byddwn i eisiau bod gyda'r teulu. Mynd am dro yn Nhonyrefail, mae'n siŵr. A chwpl o ebyst cyn mynd i'r gwely.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae nifer o luniau o gwmpas y tŷ sy'n bwysig i fi, llawer ohonynt o'r teulu. Ond o blith y lluniau eraill, fy ffefryn yw print gan Carpanini sy'n portreadu'r cymoedd.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Enillydd Wimbledon - ar ddiwrnod gêm y rownd derfynol.
Hefyd o Ddiddordeb: