Menyw yn yr ysbyty wedi ymosodiad gan gi yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Rhodfa Maesglas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Rodfa Maesglas yng Nghasnewydd fore Llun

Mae menyw 48 oed yn derbyn triniaeth ysbyty wedi ymosodiad gan gi yng Nghasnewydd.

Dywedodd Heddlu Gwent iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad yn Rhodfa Maesglas yn y ddinas tua 08:50 fore Llun.

Aeth swyddogion o'r heddlu yno ynghyd â pharafeddygon o'r Gwasanaeth Ambiwlans, ac fe gafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty.

Cafodd menyw 32 oed ei harestio ar amheuaeth o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus ac allan o reolaeth, gan achosi anaf.

Mae hi'n parhau yn y ddalfa, tra bo'r ci wedi cael ei ddifa gan filfeddyg.

Dywedodd yr heddlu nad yw brid y ci wedi'i sefydlu eto.