Rhybudd i fod yn ofalus gyda'r llanw uchel dros y Pasg

  • Cyhoeddwyd
RNLI

Mae rhybudd i bobl fod yn ofalus wrth ymweld â'r arfordir dros benwythnos y Pasg oherwydd cynnydd yn y siawns o gael eich dal mewn gorllanw (spring tides).

Daw'r rhybudd yn sgil ffigyrau newydd sy'n dangos bod tua 15% o gynnydd mewn achosion o achub yn sgil llanw uchel.

Mae'r RNLI yn rhybuddio pobl am y peryglon o orllanw uchel trwy gydol penwythnos y Pasg.

Mae amseroedd ac uchder llanw yn amrywio trwy gydol y mis ac mae pobl yn aml yn cael eu dal ynddynt.

'Angen gwybod am amseroedd y llanw'

Dywedodd Jason Dunlop, rheolwr gweithrediadau Bad Achub RNLI Penarth: "Pan mae'n dod at lanw gall hyd yn oed cam-amcangyfrif bach gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig pan fo'r llanw yn uwch nag arfer.

"Yma ym Mro Morgannwg rydym yn gweld llawer o achosion o bobl yn cael eu dal yn y llanw ger Ynys Sili.

"'Dyn ni wedi mynychu'r safle yma hyd at 25 o weithiau o fewn y flwyddyn i achub pobl.

"'Dyn ni'n trio stopio pobl rhag cael eu hunain yn y sefyllfa yna. Mae angen i bobl wybod am amseroedd y llanw a chymryd eu ffôn gyda nhw fel modd o allu ffonio am help."

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ardal sy'n aml o dan ddŵr rhwng y tir mawr ac Ynys Sili

Mae'r ardal garegog rhwng Ynys Sili â'r tir mawr yn aml yn cael ei orchuddio gan ddŵr tua thair awr cyn llanw uchel, felly mae pobl yn aml yn mynd yn sownd yna.

Llynedd fe welodd yr RNLI gynnydd yn nifer y bobl a gafodd eu dal yn sgil y llanw.

Mae cynlluniau i lansio Gweithlu Diogelwch Dŵr ar gyfer Ynys Sili yn yr haf.

Bydd y cynllun yma yn golygu y bydd gwirfoddolwyr yn gallu rhannu gwybodaeth ddefnyddiol gyda'r cyhoedd ynghylch y peryglon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau uchod yn dangos nifer y galwadau y mae'r RNLI wedi eu cael i helpu pobl sydd wedi eu dal gan y llanw

Wrth gyfeirio at y cynllun newydd, dywedodd Chris Cousens, arweinydd diogelwch dŵr yr RNLI: "Rydym yn edrych ymlaen at lansio'r cynllun yn hwyrach yn y flwyddyn, wrth i ni weld mwy o bobl yn mentro i'r arfordir yn ystod y tymhorau cynhesaf.

"Y penwythnos hwn rydym yn annog pobl i feddwl yn ofalus am eu diogelwch, yn enwedig gyda'r cynnydd mewn risg ar gyfer llanw uchel.

"Mae angen i chi wirio'r tywydd a'r llanw ar wefan ddibynadwy, fel y Swyddfa Dywydd, tywydd y BBC neu ap sy'n rhagweld y llanw, cyn i chi fynd ar unrhyw daith.

"Os ydych chi mewn perygl neu yn gweld rhywun arall mewn perygl, ffoniwch 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau."

Achubwyr bywyd yn dychwelyd i draethau

Bydd achubwyr bywyd yr RNLI hefyd yn dychwelyd i'r traethau am y tro cyntaf y tymor hwn wrth i ymwelwyr heidio i'r arfordir dros wyliau'r Pasg.

I gychwyn bydd swyddogion achubwyr bywyd ar naw o draethau Cymru, gan gynnwys Anya Walton.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anya Walton wedi bod yn achubwr bywyd gyda'r RNLI ers chwe blynedd

Dywedodd Anya: "Os yw pobl yn mynd i'r traeth, rydym yn eu hannog i fynd i draeth lle mae achubwyr bywyd yn bresennol.

"Dros y chwe blynedd dwi wedi bod yn achubwr bywyd, dwi wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod i'r traeth."

Aeth ymlaen i sôn fod "pethau fel paddle boarding wedi dod yn hynod o boblogaidd... rydym yn annog pobl sydd am wneud hynny i edrych ar ragolygon y gwynt cyn mynd i'r traeth".

"Er bod y cyfryngau cymdeithasol wedi helpu o ran dangos llefydd a thraethau newydd i bobl, mae'n rhaid i chi stopio a meddwl cyn mynd i draeth newydd."