Y bardd John Hywyn wedi marw yn 76 oed

  • Cyhoeddwyd
John HywynFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae'r bardd John Hywyn wedi marw yn 76 oed.

Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst yn 1968 a choron Eisteddfod Môn 1974.

Enillodd sawl gwobr eisteddfodol arall ac yn 2019, ef oedd enillydd Tlws T Arfon Williams cylchgrawn Barddas, sy'n cael ei roi i awdur yr englyn gorau yng nghystadleuaeth Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wrth gofio amdano dywedodd Nici Beech a fu yn yr un tîm ymryson ag ef yn yr Eisteddfod Genedlaethol ei fod yn "ŵr hwyliog iawn a'i bod hi mor hawdd cydweithio ag ef".

"Fe fyddai wastad yn cyflwyno syniadau unigryw. Mae'n drist iawn clywed ei fod wedi'n gadael ni," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Coroni John Hywyn yn Eisteddfod Môn Amlwch 1974

Un arall fu ar yr un tîm ymryson oedd y bardd Ifan Prys, sy'n byw yn Llandrwog, lle'r oedd cartref John Hywyn.

Dywedodd: "Roedd bod ar dîm ymryson yn y Babell Lên efo John yn addysg. Roedd ganddo'r ddawn o wybod nid yn unig sut y byddai'r Meuryn yn ymateb i'w englyn ond sut y byddai'r gynulleidfa'n ymateb hefyd, a byddai'n manteisio'n llawn ar y gynneddf honno i gael yr 'O' honno gan y gynulleidfa a'r deg marc gan y Meuryn.

"Roedd ei gyngor o i'w gyd-aelodau yn y tîm yr un mor werthfawr er mwyn i ninnau gael yr un ymateb a'r un marc.

"Roedd colli Gwenno ei wraig yn ifanc yn thema amlwg yn englynion John ar hyd y blynyddoedd, ond roedd hefyd, yn fwy diweddar, wedi gwirioni cael bod yn daid.

"Mewn un ymryson fe gawson ni dasg i sgwennu cwpled yn enwi rhywun yn y gynulleidfa, ac er mai'r englyn fyddai tasg John yn yr ymryson yn ddi-ffael, y flwyddyn honno fe neidiodd John am y cyfle i wneud y cwpled gan fod Ifan, ei ŵyr, yn y gynulleidfa yn y Babell Lên, a dyma beth sgwennodd John - "Ifan, heulwen fy enaid, wedi dod i weld ei daid'. 'O' enfawr a deg marc ar ei ben!"

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cadeirio John Hywyn yn Eisteddfod yr Urdd Llanrwst, 1968

Yn wreiddiol o Aberdaron, roedd John Hywyn yn fab i'r ficer, y Parchedig Emrys Edwards, a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maelor yn 1961.

Bu'n brifathro Ysgol Brynaerau am nifer o flynyddoedd, gan symud i ardal Llandwrog.

Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, Gwenno Hywyn, a fu farw yn 1991.

Mae'n gadael dau o blant - Rhys a Nia - a phedwar o wyrion.

Ffynhonnell y llun, Meirion MacIntyre Huws
Disgrifiad o’r llun,

"Mae byd yr ymryson a'r talwrn wedi colli meistr", yn ôl Meirion MacIntyre Huws

Wrth roi teyrnged i John, dywedodd Meirion MacIntyre Huws, ei fod yn ddyn "ffraeth, tawel a diymhongar".

"Roedd ei sgwrs wastad yn un ddifyr ac roeddwn yn dysgu rhywbeth newydd yn ei gwmni o hyd," meddai.

"Dwi'n difaru na chefais i fwy o'r cwmni hwnnw, a mwy o sgyrsiau goleuedig.

"Fel y dywedodd mewn englyn yn yr ymryson un tro i Gwenno, ei ddiweddar wraig:

'Geiriau'

Onid rhad oeddent un tro, - fe wariem

heb fawr o gynilo,

nawr rho im uwchben dy ro

un ateb bychan eto.

"Mi gafodd ddeg marc gan Gerallt Lloyd Owen fel bron iawn pob englyn arall a luniodd John i dîm Caernarfon," ychwanegodd Mr Huws.

"Yn Ymryson y Beirdd 'Steddfod Wrecsam, 2011, enillodd Tîm Caernarfon yr ornest gyda sgôr o 49 marc allan o 50 posib.

"Yn ôl Dafydd Islwyn, Ysgrifennydd Barddas ar y pryd roedd y sgôr 'o bosib yr uchaf erioed!'. Heb John fyddai hynny heb ddigwydd.

"Mae Cymru wedi colli un o'i gweision mwyaf ffyddlon ac mae byd yr ymryson a'r talwrn wedi colli meistr."

Pynciau cysylltiedig