Teyrnged merch i fam a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Stephanie MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Stephanie Morris yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei beic modur a char

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dynes fu farw yn Abertawe ddydd Llun wedi gwrthdrawiad rhwng ei beic modur a char.

Roedd Stephanie Morris yn 46 oed ac yn dod o ardal Blaen-y-maes yn y ddinas.

Dywed plismyn eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad rhwng beic modur Yamaha du a char Ford Fiesta ar Ffordd Mynydd Newydd ym Mhen-lan tua 20:45 ar 1 Ebrill.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd ei merch Chelsea bod ei mam yn "fam, mam-gu, chwaer, modryb a ffrind a oedd yn cael ei charu'n fawr".

"Hi oedd y person caredicaf y gallech ei gyfarfod, ac fe fyddai bod yn ei chwmni yn gwella'ch diwrnod.

"Mae negeseuon ar Facebook yn dangos bod yna barch iddi yn y gymuned ac fe fydd colled ar ei hôl.

"Ry'n ni fel teulu wedi cael sioc ac yn ei chael hi'n anodd delio gyda'r hyn sydd wedi digwydd ond fe hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys ac aelodau o'r cyhoedd a wnaeth geisio helpu Mam."

Pynciau cysylltiedig