Cyrff babanod Pen-y-bont: Dynes yn pledio'n euog

  • Cyhoeddwyd
Mae Eglė Žilinskaitė wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad, tra bod Žilvinas Ledovskis wedi gwadu'r cyhuddiadauFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eglė Žilinskaitė wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad, tra bod Žilvinas Ledovskis wedi gwadu'r cyhuddiadau

Mae dynes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau cysylltiedig â chanfod cyrff dau fabi ym Mhenybont-ar-Ogwr.

Yn Llys y Goron Caerdydd, cyfaddefodd Eglė Žilinskaitė, 30, ei bod yn euog o ddau achos o gelu genedigaeth baban, ac o ddau achos o atal claddedigaeth gyfreithiol a gweddus.

Fe wnaeth Žilvinas Ledovskis, 49, a gyhuddwyd ar y cyd â Ms Žilinskaitė wadu pob un o'r pedwar cyhuddiad.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i gartref ar Heol Maes-y-felin ar stad Y Felin-wyllt ychydig cyn 20:00 nos Sadwrn 26 Tachwedd 2022 - yno cafwyd hyd i gyrff dau fabi.

Clywodd y llys bod y cyhuddiadau yn ymwneud â genedigaeth dau fabi rhwng Ionawr 2017 a Thachwedd 2022 - y naill yn cael ei adnabod fel 'babi A' a'r llall fel 'babi B'.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae disgwyl i Žilvinas Ledovskis o Ffordd Phoebe, Abertawe wynebu achos llys ar 25 Tachwedd.

Mae disgwyl i Eglė Žilinskaitė, o Heol y Crwys, Caerdydd ddychwelyd i'r llys ar 5 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig