Menyw, 25, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger siop

  • Cyhoeddwyd
Heol Abertawe, Merthyr Tudful ger Trago MillsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Abertawe nos Wener 5 Ebrill

Mae menyw 25 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Abertawe, ger siop Trago Mills, tua 23:45 nos Wener 5 Ebrill.

Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru bod y fenyw wedi marw o'i hanafiadau a bod ei theulu'n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Un car yn unig oedd yn y gwrthdrawiad - Audi S3 gwyn - a oedd yn teithio ar hyd Heol Abertawe o'r siop i gyfeiriad cyffredinol yr A465.

Mae'r llun'n apelio am wybodaeth neu luniau o'r gwrthdrawiad, neu o'r cerbyd cyn y gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig