Llwyddiant Wrecsam 'yn dod â dagrau i'm llygaid i'

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Wrecsam Steven Fletcher ac Elliot Lee yn dathlu dyrchafiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Wrecsam Steven Fletcher ac Elliot Lee yn dathlu dyrchafiad ar y Cae Ras

Ysgrifennwyd pennod arall yn hanes diweddar Clwb Pêl-droed Wrecsam wrth iddynt sicrhau dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol.

Roedd buddugoliaeth swmpus o 6-0 dros Forest Green Rovers ynghyd â cholledion i MK Dons a Barrow b'nawn Sadwrn yn golygu y bydd y Dreigiau yn chwarae yn Adran Un Cynghrair Lloegr y tymor nesaf.

Roedd Wrecsam yn gwybod y byddai pum pwynt o'r tair gêm oedd yn weddill yn sicrhau dyrchafiad - ond fe lwyddon nhw wneud hynny gyda dwy gêm ar ôl o'r tymor.

"Mae'n dod â dagrau i'm llygaid i," meddai Waynne Phillips, aelod o'r garfan ddiwethaf i sicrhau dyrchafiad i drydedd haen Cynghrair Bêl-droed Lloegr yn 2004.

Disgrifiad,

Dyrchafiad i Wrecsam: 'Dwi'n mynd am beint 'ŵan!'

"Doeddwn i ddim yn disgwyl o ddigwydd heddiw. Ro'n i wedi disgwyl MK Dons i ennill ond yn falch tydyn nhw heb.

"I'w wneud o yma [ar y Cae Ras] oedd yn bwysig i fi. Mae'n neis ennill dyrchafiad ond pan ti'n gwneud o ar patch dy hun o flaen y cefnogwyr yma, does na'm teimlad gwell.

"Os fasan ni wedi mynd fewn i'r gêm nesaf yna faswn i wedi bod yn poeni ychydig bach yn mynd i Crewe y Sadwrn nesaf.

"Yn y diwedd dwi'n meddwl y tri tîm gorau dros y tymor fydd yn mynd i fyny yn awtomatig - Stockport, Wrecsam a Mansfield.

"Mae'r tri ohonyn nhw wedi bod yn arbennig o dda. Am dymor sbesial unwaith eto 'dan ni wedi cael yma yn Wrecsam."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe heidiodd miloedd o gefnogwyr i'r cae i ddathlu wedi'r chwiban olaf ddydd Sadwrn

Daw dyrchafiad Wrecsam i Adran Un prin 12 mis ers iddyn nhw godi o Gynghrair Genedlaethol Lloegr, lle buon nhw'n chwarae am 15 mlynedd hir.

Ond trawsnewidwyd y clwb pan ddaeth sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn berchnogion ym mis Chwefror 2021.

Gyda phresenoldeb y ddau - a llwyddiant y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham - mae'r clwb sydd wedi profi trafferthion ariannol sawl tro yn ei hanes yn ffynnu erbyn hyn.

Ac mae hynny wedi caniatáu i'r perchnogion gefnogi'r rheolwr yn ariannol a galluogi iddo gryfhau'r garfan.

"Mae hynna wedi bod yn help mawr i Phil Parkinson," ychwanegodd Waynne Phillips, "ond mae o fel y rheolwr yn gorfod gwneud y gwaith wedyn ac mae o wedi gwneud o'n arbennig o dda.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Parkinson yn haeddu llawer o'r clod am lwyddiant Wrecsam, medd Waynne Phillips

"Allai ddim coelio weithiau y cwyno amdano fo os ydi Wrecsam yn colli gêm - dwi'n mynd ar fy ffôn ac yn gweld beth mae pobl yn ei ddweud.

"Ond mae hynny yn digwydd i bob rheolwr - dwi m'ond yn gallu canmol y dyn hefo'r gwaith mae o wedi ei wneud yn y blynyddoedd mae o wedi bod yma.

"Fo di'r un sydd yn haeddu mwy o glod na neb arall.

"Do, mae wedi cael help gan y perchnogion i ddod â chwaraewyr fel yr enwau mawr sydd yn y clwb i mewn. Dwi mor falch i Phil Parkinson."

Dyma'r pumed tro i Parkinson ennill dyrchafiad fel rheolwr ond y tro cyntaf iddo ef a Wrecsam wneud hynny gefn wrth gefn.

Mae Parkinson yn ffyddiog bod 'na ragor o benodau i ddod yn stori Wrecsam.