Gwobr i sêr rygbi'r dyfodol er cof am Barry John
- Cyhoeddwyd

Mae'r Urdd am gofio cyfraniad Barry John i'r gêm elusennol a gafodd ei threfnu i ddathlu hanner can mlwyddiant y mudiad yn 1972
Bydd yr Urdd yn rhoi teyrnged i Barry John drwy gyflwyno gwobr yn ei enw mewn twrnament rygbi.
Mae'r mudiad wedi penderfynu rhoi teyrnged i'r seren rygbi yn nhwrnament rygbi saith-bob-ochr Urdd WRU am ei gyfraniad i'r gêm elusennol a gafodd ei threfnu i ddathlu hanner can mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru yn 1972.
Bu farw seren rygbi Cymru a'r Llewod o'r 60au a 70au ym mis Chwefror, yn 79 oed.
Mae'n cael ei ystyried gan lawer fel maswr gorau ei genhedlaeth, ac mae nifer yn credu mai ef yw'r gorau erioed.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Gary Lewis, cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau yr Urdd, fod gwobr yn cael ei gyflwyno ar ôl pob ffeinal.
"Ar ôl pob ffeinal bydd 'na wobr i'r chwaraewr gorau yn enw Barry John, a gwych i weld mai ei gêm olaf oedd i ddathlu 50 mlynedd y mudiad yn yr Arms Park, so mae'n rhywbeth i roi nôl yn fan'na hefyd."
Bydd 6,600 o chwaraewyr ifanc yn cymryd rhan yn y twrnament sy'n dechrau yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Hon ydi'r gystadleuaeth rygbi fwyaf o'i math yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad eleni yn cynnwys cystadlaethau merched a bechgyn, sy'n ymestyn o flwyddyn 5 i flwyddyn 13.

Mae dros 150 o ysgolion wedi cofrestru i gymryd rhan, sy'n cyfateb i dros 500 o dimau.
Bydd y digwyddiad ar gaeau chwarae Pontcanna a Llandaf rhwng 15 a 19 Ebrill yn cynnwys categorïau i ysgolion, colegau ac ysgolion addysg arbennig, yn ogystal â sesiynau rygbi cadair olwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd: "Mae'r sesiynau cadair olwyn yn galluogi ysgolion i brofi rygbi cadair olwyn ac yn codi ymwybyddiaeth, tra mae'r Ŵyl Dreftadaeth, sy'n gydweithrediad rhwng yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru, yn gwahodd ieuenctid o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan mewn rygbi."

Ar 1-2 Mai bydd twrnament rygbi saith-bob-ochr yr Urdd a'r WRU yn cael ei gynnal yn y gogledd, yng nghlwb rygbi Bae Colwyn.
Yno bydd gŵyl i ysgolion anghenion addysg arbennig yn rhan o'r digwyddiad am y tro cyntaf eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024