Sefydlu grŵp yn y gogledd i leddfu 'unigrwydd canser'

  • Cyhoeddwyd
Anwen EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen Edwards yn gobeithio y bydd grŵp y gogledd yn ysbrydoli eraill

Roedd teimlo lwmp ar ei bron yn sioc enfawr i Anwen Edwards o Lanfairpwll ym Môn yn Rhagfyr 2021 ond dywed mai'r hyn a roddodd fwyaf o syndod iddi oedd yr unigrwydd wedi i'r driniaeth ddod i ben.

Ddechrau eleni fe sefydlodd hi grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol o'r enw 'Cymuned Cefnogaeth Canser' - grŵp sydd eisoes wedi cyfarfod ddwywaith ac wedi denu bron i 300 o aelodau.

"Mi ges i ddiagnosis buan ond roedd y cyfan yn andros o sioc," meddai Anwen wrth siarad â Cymru Fyw.

"Roeddwn i'n 46, yn byw bywyd llawn gyda fy ngŵr a dwy ferch yn ei harddegau - ac i ddweud y gwir yn byw bywyd iach iawn.

"Yn ystod Covid roeddwn i wedi colli lot o bwysau ac yn ffit iawn. Roeddwn i'n rhedeg yn gyson, yn gwneud ymarfer corff ac yn bwyta'n iach - o ran fy ffitrwydd dyna'r mwyaf ffit dwi wedi bod erioed.

"Ond efallai yr hyn a'm tarodd i fwyaf tra'n sâl oedd unigrwydd canser. Ro'dd hi'n gyfnod Covid a 'nes i'm cyfarfod ffrindiau ac roedd y cyfnod wedi i mi orffen y driniaeth yn waeth.

"'Nes i orffen y driniaeth ym mis Gorffennaf 2022. Roedd hwnna'n adeg mor anodd oherwydd pan mae rhywun yn mynd trwy'r driniaeth mae 'na apwyntiadau meddygol a chysur wrth iddyn nhw siecio chi lot - ond wedi i hynna ddod i ben mae rhywun yn teimlo'n reit ddihyder.

"Dyw'r gefnogaeth na'r sicrwydd ddim yn bod."

'Anhygoel ac emosiynol'

Ym Medi 2022 cafodd côr canser Law yn Llaw ei sefydlu - côr yng Ngwynedd i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ganser.

Ymhlith yr aelodau yr oedd cleifion, aelodau o deuluoedd oedd wedi'u heffeithio gan yr afiechyd a'r rhai oedd yn gweithio yn y maes.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen Edwards bellach yn arwain côr Law yn Llaw ond dywed ei bod hi'n teimlo bod angen rhywbeth arall i'r sawl nad oedd am ganu

"Roedd cael mynd i'r côr yna yn gwbl arbennig," dywedodd Anwen Edwards. "Dyna'r tro cyntaf i fi gyfarfod pobl oedd wedi bod trwy'r un peth â fi.

"Roedd yr holl brofiad yn anhygoel ac yn emosiynol iawn ac erbyn hyn dwi'n arwain y côr.

"'Dan ni'n cymdeithasu ac yn trafod profiadau ond hynny ar ôl y canu. Ond dyw pawb ddim isio canu a dyna pam 'nes i sefydlu'r grŵp 'Cymuned Cefnogaeth Canser'.

"Fe na'th ffrind i fi gysylltu yn gofyn am gymorth a chefnogaeth i'w ffrind hi - doedd hi ddim am fod mewn côr a dyma fi'n meddwl 'mae 'na fwlch yn fan hyn o ran cefnogi cleifion canser'.

"Wedi i mi gael cwnsela wedi'r driniaeth chemo roeddwn i'n gweld pwysigrwydd hynny a dwi fy hun bellach yn hyfforddi fel cwnselydd.

"Mae hynny o gymorth i'r grŵp gobeithio ond yn amlwg does na'r un cyngor meddygol - yr arbenigwyr sy'n gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael diagnosis o ganser yn sioc i Anwen Edwards a'i theulu ifanc

Mae'r grŵp wedi cyfarfod ddwywaith - ym Metws-y-coed ddechrau'r flwyddyn ac yna ym Mangor ym mis Mawrth.

"Roedd e'n hyfryd. Roedd rhai ar ganol triniaeth ac eraill wedi gorffen eu triniaeth ac yn teimlo'r unigrwydd yna.

"Wedi i chi gael canser mae 'na bethau bach yn gallu chwarae ar eich meddwl chi - ydy o'n mynd i ddod nôl? Ydy'r peswch sydd gen i yn wahanol i'r arfer? Mae'r grŵp yn gyfle i rannu gofidiau.

"Ar ben hyn i gyd mae 'na sgil effeithiau. Dwi ddim y person yr oeddwn i cyn canser," ychwanegodd Anwen, sydd wedi dychwelyd i'w gwaith fel athrawes gerdd yn Ysgol Brynrefail, Llanrug.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen yn parhau i redeg ond dywed nad oes ganddi yr un egni â chynt

"Does gen i ddim yr un egni - dwi'n blino ac mae gen i brain fog," dywedodd.

"Mae gen i binnau bach yn fy nhraed a'n nwylo a dwi methu chwarae offerynnau fel cynt... mae nifer yn cael cyfnodau o iselder yn sgil neu wedi'r driniaeth.

"Ydy, mae hi mor bwysig trafod y pryderon a'r ofnau a dwi'n gobeithio bod ein profiad ni yma yn y gogledd yn hwb i eraill sefydlu grwpiau tebyg yn ôl y galw."

Pynciau cysylltiedig