'Canser yn sioc ond y GIG wedi bod yn wych'

  • Cyhoeddwyd
Megan Jones Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan Jones Roberts "mor ddiolchgar i'r GIG" wrth iddi ddechrau ar driniaeth ganser

Mae menyw sydd wedi codi dros £200,000 i achosion da wedi dweud na allai hi fod wedi cael gwell gwasanaeth wrth iddi ddechrau ar driniaeth ganser ei hun.

Ar ddiwrnod cyhoeddi'r rhestrau aros misol, dywed Megan Jones Roberts, o Benparcau ger Aberystwyth, fod ei phrofiad hi o'r gwasanaeth iechyd yn un da iawn.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos fod maint rhestrau aros am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw wedi gostwng am y tro cyntaf mewn wyth mis.

Wrth ymateb i'r ffigyrau ddydd Iau, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod y gwasanaeth iechyd wedi ymdopi'n "gymharol dda" y gaeaf hwn er gwaethaf amgylchiadau heriol.

'Sioc'

Mae'r ffigyrau yn dangos dirywiad yn amseroedd aros ar gyfer triniaethau canser, a'u bod 2.5 pwynt yn is ar gyfartaledd na Thachwedd 2022.

Er bod ffigyrau Bwrdd Iechyd Hywel Dda ymysg y gwaethaf, dywed Ms Roberts bod ei phrofiad hi yn gwbl wahanol.

Dydd Llun bydd Megan Jones yn dechrau ar driniaeth ganser yn uned cemotherapi Bronglais yn Aberystwyth - uned y mae hi ei hun wedi codi arian sylweddol iddi.

"Mae rhywun yn clywed o hyd am restrau aros maith ond mae'n rhaid i fi ganmol be' sydd wedi digwydd i fi - allwn i ddim fod wedi gofyn am wasanaeth gwell," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan Jones Roberts yn gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

Ychwanegodd: "Wedi wythnos o gael poen yn fy mol es i at y meddyg. Fe gysylltodd hi â Bronglais a ches i fy ngweld yn syth.

"Yn fuan wedyn fe ges i sgan a cholonosgopi llawn a chael gwybod ryw bythefnos yn ôl beth oedd y sefyllfa.

"Ches i ddim newyddion da yn anffodus - mae cael gwybod bod 'da chi ganser yn sioc ac mae gen i ganser y coluddyn sydd wedi lledu i'r afu a'r ysgyfaint.

"Ond yr hyn sydd wedi bod yn wych yw'r gwasanaeth cyflym a hynny yng nghyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd."

"I ddweud y gwir dwi'n meddwl bod y meddyg ifanc 'na yn Aberystwyth wedi achub fy mywyd i ac mae'r gwasanaeth cyflym wedyn yn ysbytai Bronglais a Glangwili wedi bod yn ffantastig," ychwanegodd.

"Yn digwydd bod mae fy mrawd hefyd yn cael triniaeth canser - a mae'n rhai i fi ddweud bod ei driniaeth e hefyd wedi digwydd yn eitha cloi ac mae'r linell ffôn arbennig sy' 'na i gleifion canser yn golygu ei fod yn cael ei weld yn yr ysbyty yn syth os oes angen - does dim angen aros."

Codi arian yn 'fodd i fyw'

Mae codi arian at elusennau ac achosion lleol yn hynod o bwysig i Megan Jones Roberts a hi yw cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ac mae'n hynod o weithgar gyda'r papur bro lleol - Yr Angor.

Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn galw am seibiant a chyfleon i ofalwyr di-dâl wedi iddi fod yn gofalu am ei gŵr sydd ag Alzheimer's.

Ar hyn o bryd mae hi wrthi yn trefnu noson lawen yn Aberystwyth ddechrau mis Chwefror i godi mwy o arian at elusennau lleol.

"Dwi wastad wedi cael cefnogaeth arbennig gan artistiaid fel John ac Alun, Wil Tân ac amryw o rai eraill," meddai.

"Mae'n sioc bod gen i fy hun ganser erbyn hyn ond yn sicr mae gen i le i ddiolch i'r gwasanaeth iechyd.

"Ni'n cwyno digon amdanyn nhw a dwi'n gwybod bod rhai yn gorfod aros misoedd am driniaeth - ac mae'n siŵr y bydd y ffigyrau ddydd Iau unwaith eto yn ddarlun du o'r sefyllfa ond mae 'na straeon da hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Tan iddo fynd i gartref roedd Megan Jones Roberts o Benparcau yn gofalu am ei gŵr Pete sy'n byw â chyflwr Alzheimer

Er bod maint y rhestrau aros am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw wedi gostwng, mae dal tua 760,000 o driniaethau i'w cwblhau.

Nid yw'r ffigyrau a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau chwaith yn adlewyrchu effaith y streic gan feddygon iau yr wythnos hon.

Er hyn, mae ffigyrau gofal brys hefyd wedi gwella gyda 66.7% o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn unedau brys. Mae hynny'n welliant o'i gymharu â 63.5% yn Rhagfyr 2022.

'Rhoi modd i mi fyw'

Yn y cyfamser, mae Ms Roberts yn annog unrhyw un sydd â phoen i fynd at y meddyg yn syth.

Bydd Ms Roberts yn cael ei thriniaeth gyntaf ym Mronglais ddydd Llun ond dywed ei bod yn gobeithio y bydd modd iddi fod mor brysur ag erioed.

"Dwi'n edrych ymlaen at y noson lawen ac yna fe fydd gen i waith trefnu ar gyfer Eisteddfod Galan Mai y Morlan yn Aberystwyth," meddai.

"Mae trefnu a gweithio er budd eraill yn rhoi modd i mi fyw."