Arestio dyn wedi digwyddiad ar gae pêl-droed Amlwch
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad ar gae pêl-droed Amlwch y penwythnos diwethaf.
Ddydd Mercher dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i ymosodiad honedig ar lumanwr yn ystod gêm rhwng Amlwch a Phenrhyndeudraeth yng Nghynghrair Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ar gae Lôn Bach ddydd Sadwrn 27 Ebrill.
Mae dyn bellach wedi cael ei arestio, a'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andrew Gibson: "Mae'n hymholiadau i'r digwyddiad yn parhau.
"Rydym yn cydweithio'n agos â Chynghrair Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ac yn annog pobl i beidio â dyfalu neu rannu unrhyw gynnwys sy'n cael ei ddosbarthu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn osgoi unrhyw ddylanwad posib ar achos cyfreithiol."
Mewn datganiad dywedodd Clwb Pêl-droed Amlwch: "Fel clwb rydym ni wedi cael ein tristau'n fawr gan y digwyddiadau dros y penwythnos.
"Byddwn yn cydweithredu â phob ymchwiliad gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cynghrair Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd."