Etholiad 2019: Gwleidyddion Cymru mewn dadl deledu

  • Cyhoeddwyd
Dadl deledu gyntafFfynhonnell y llun, ITV Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y ddadl deledu gyntaf yn yr ymgyrch etholiadol

Mae aelodau blaenllaw y pleidiau sy'n sefyll yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol wedi herio ei gilydd am y tro cyntaf yn ystod yr ymgyrch mewn dadl deledu fyw.

Dywedodd Nick Thomas-Symonds wrth ITV Cymru y byddai Llafur yn cael gwared ar fudd-dal Credyd Cynhwysol, tra bod y Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds wedi dweud bod y polisi wedi bod yn "drychineb".

Dywedodd Liz Saville Roberts y byddai Plaid Cymru yn codi plant allan o dlodi, tra bod y Ceidwadwr David TC Davies yn canolbwyntio ar gael pobl oddi ar fudd-daliadau.

Dywedodd Nathan Gill o Blaid Brexit fod Credyd Cynhwysol yn "erchyll".

"Mae naw mlynedd o gyni wedi dirywio gwasanaethau cyhoeddus," meddai Mr Thomas-Symonds o'r Blaid Lafur wrth y rhaglen.

"Rhaid i ni ddod â chyni i ben ac mae hynny'n cynnwys dod â'r trychineb a oedd yn Gredyd Cynhwysol i ben."

Dywedodd Ms Saville Roberts o Blaid Cymru fod y modd i godi plant allan o dlodi "wedi bod yn nwylo Llafur yng Nghaerdydd yn y Senedd ers blynyddoedd" a bod "cyn lleied wedi ei wneud".

Ychwanegodd Mr Gill: "Rhaid i'r llywodraeth fod yno i roi help llaw pan fydd ei angen arnynt."

Cytunodd Ms Dodds fod y gweithredu wedi bod yn "drychineb llwyr".

Dywedodd y byddai ei phlaid yn lleihau'r amser aros am y taliad cyntaf o bum wythnos i bum niwrnod.

"Byddem hefyd yn buddsoddi mewn gofal plant am ddim, sy'n golygu y byddai menywod a mamau a rhieni yn ôl i'r gwaith," meddai.

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nick Thomas-Symonds o'r blaid Lafur, Liz Saville Roberts ar ran Plaid Cymru, a'r Ceidwadwr David Davies herio'i gilydd ar swyddi, yr economi a gwariant

Wrth ymateb i sylwadau'r panel ar Gredyd Cynhwysol, dywedodd y Ceidwadwr Mr Davies: "Mae'n ddrwg gen i glywed nad yw pobl wedi cael gwybod y gallant fenthyg yr arian ar gyfraddau llog isel os oes angen iddynt aros.

"Y rheswm rydyn ni wedi cael naw mlynedd o gyni yw bod Llafur wedi dymchwel yr economi."

Wrth holi Mr Thomas-Symonds am gynllun Llafur i gael gwared ar Gredyd Cynhwysol, dywedodd Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, y byddai'n rhaid i Lafur ddechrau eto.

Atebodd Mr Thomas Symonds: "Byddai'n rhaid i chi allu atal gormodedd gwaethaf y system bresennol ar unwaith, ac mae'r system bresennol yn methu ar ei thelerau ei hun. Mae'n cynyddu tlodi."

Dywedodd ei wrthwynebydd Ceidwadol bod Llafur eisiau siarad am yr hyn maen nhw am ei wneud ar gyfer y system fudd-daliadau, ond bod ei blaid yn siarad "am sut i gael pobl allan o'r system fudd-daliadau".

"Mae gennym ni'r lefelau diweithdra isaf yn y wlad hon ers y 70au," ychwanegodd Mr Davies.

Derbyniodd Ms Saville Roberts y byddai eisiau i'r pwerau sy'n ymwneud â'r polisi hwn gael eu datganoli, ac amcangyfrifodd Plaid Cymru y byddai'n costio tua £525m y flwyddyn.

"Mae'n rhaid i rywun fynd i'r afael â hyn," meddai.

Ffynhonnell y llun, ITV Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Nathan Gill o Blaid Brexit feirniadu cynllun Credyd Cynhwysol

Dywedodd Mr Gill o Blaid Brexit: "Gadewch i ni edrych ar ffyrdd o fasnachu'n ffordd allan o dlodi...

"Byddem yn codi cyfalaf wrth i'r wlad gynyddu ei hincwm... Byddem ni i gyd yn elwa o hynny, byddai pobl yn cael swyddi sy'n talu'n dda. "

O ran Llafur, dywedodd Mr Thomas-Symonds y byddai cynlluniau ar gyfer benthyca yn cael eu datgelu ddydd Iau wrth i'r blaid lansio ei maniffesto, ac y byddai'n glir o ble y byddai trethi'n dod - gyda "rheiny sy'n medru talu" yn ysgwyddo'r baich mwyaf.

Wrth ymateb i her i gynlluniau gwariant, dywedodd Mr Davies: "Rydym yn benthyca'r arian hwn i fuddsoddi, gallwn roi'r arian hwn i'r Gwasanaeth Iechyd ac i addysg."

Dywedodd Ms Dodds ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod gan ei phlaid set lawn o gynigion wedi'u prisio'n llawn, wedi'u hariannu'n rhannol trwy godi trethi a thrwy'r hyn a alwodd yn "Bonws Aros yn seiliedig ar y DU yn aros yn yr UE".

Dywedodd y byddai'n darparu £50bn "yn ystod oes y Senedd nesaf".