Plaid Cymru eisiau 'chwyldro swyddi gwyrdd' gwerth £20bn
- Cyhoeddwyd
Mae Adam Price wedi galw am "chwyldro swyddi gwyrdd" gwerth £20bn yng Nghymru wrth iddo lansio maniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys buddsoddiad enfawr mewn trenau a bysiau, tri morlyn llanw a fferm wynt newydd oddi ar yr arfordir.
Dywedodd Mr Price y gallai degau o filoedd o swyddi gael eu creu er mwyn mynd i'r afael â'r "argyfwng brys i'r hinsawdd".
Mae'r maniffesto hefyd yn dweud y dylid cael refferendwm arall ar Brexit, fel bod pleidleiswyr yn cael y penderfyniad terfynol.
Dywedodd Mr Price y byddai'r cynlluniau'n golygu bod Cymru'n gallu rhedeg ar ynni adnewyddadwy yn unig erbyn 2030.
Cymru â 'potensial enfawr'
"Cymru oedd crud y chwyldro diwydiannol gwreiddiol, ond y gwirionedd trist sy'n hysbys i bawb yng Nghymru yw 'dyw ein gwlad heb weld budd ein cyfoeth ein hunain," meddai Mr Price.
"Ry'n ni'n gwybod fod gan Gymru botensial enfawr - rydyn ni'n gyfoethog yn ein hadnoddau naturiol, ac mae gan ein pobl dalent a sgiliau.
"Yn union fel yr oeddem y tro cyntaf, gall Cymru fod yn grud i chwyldro arall: Chwyldro Swyddi Gwyrdd, creu degau o filoedd o swyddi gwyrdd, a mynd i'r afael o ddifri â'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu."
Mae'r cynlluniau gwyrdd yn cynnwys:
Trydaneiddio'r holl brif reilffyrdd, gan gynnwys rhai'r cymoedd ac ar hyd arfordir y gogledd;
Creu systemau metro i'r de-ddwyrain, Bae Abertawe, gorllewin y cymoedd a gogledd-ddwyrain Cymru;
Ailagor gwasanaethau rheilffordd yng Nghwmaman, Cwm Tawe, Castell-nedd a Chwm Dulais;
Adeiladu tri morlyn llanw ym Mae Abertawe, Caerdydd a Bae Colwyn, fferm wynt oddi ar arfordir Ynys Môn ac argae ar Afon Wysg;
Adeiladu 20,000 o dai gwyrdd cymdeithasol a rhaglen gwerth £5bn i wneud cartrefi'n fwy effeithlon.
Sut fyddai'n cael ei ariannu?
I ariannu'r cynlluniau mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i roi 1% yn ychwanegol o'r cynnyrch domestig gros - sef GDP neu fesur o faint yr economi - ar gynlluniau gwyrdd dros y ddegawd nesaf.
Mae'r blaid yn dweud y bydd hyn yn rhoi siâr gwerth £15bn i Gymru.
Mae Plaid Cymru hefyd yn dweud y dylai'r Trysorlys gynyddu'r swm mae Cymru'n gallu ei fenthyca, o £1bn i £5bn.
Ymysg polisïau eraill y maniffesto mae recriwtio 1,600 o heddweision, taliad wythnosol o £35 ar gyfer pob plentyn sy'n byw mewn cartrefi incwm isel a gofal cymdeithasol am ddim.
Beth ydi polisïau eraill Plaid Cymru?
Refferendwm Brexit arall - mae'r blaid yn dymuno aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd;
Rhoi rheolaeth i Gymru dros bolisi mewnfudo gan fynd i'r afael â'r prinder staff mewn meysydd allweddol;
Hyfforddi a recriwtio 1,000 o ddoctoriaid, 5,000 o nyrsys a 100 o ddeintyddion newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn ystod y ddegawd nesaf;
Gofal plant am ddim 40 awr yr wythnos a thaliad o £35 yr wythnos i bob plentyn mewn teulu incwm isel;
Sefydlu system gyfiawnder i Gymru gyda phwerau dros yr heddlu a recriwtio 1,600 o blismyn yn ychwanegol;
Sefydlu comisiwn cenedlaethol i edrych ar ddiwygio'r gyfraith ar gyffuriau;
Datganoli y dreth gorfforaethol, trethi teithiau awyr a threth ar werth;
Dylai'r penderfyniad i fynd i ryfel gael ei gymeradwyo gan bedair gwlad y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019