'Brwydr galed' dwy blaid yn etholaeth Preseli Penfro

  • Cyhoeddwyd
Abergwaun o'r awyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Cofiwch y pethau bychain medd Dewi Sant, ac yn sicr mae'r etholaeth lle mae ei gadeirlan yn sefyll yn enwog am fwyafrifoedd bach.

Ychydig dros 300 o bleidleisiau oedd rhwng y Ceidwadwyr a Llafur yma'r tro diwethaf, ac fe fydd yr etholiad hwn yn frwydr galed i'r ddwy blaid fawr.

Dim ond dau AS sydd wedi cynrychioli'r sedd ers iddi ddod i fodolaeth yn 1997 ac mae wedi bod yn nwylo'r Ceidwadwyr ers 2005.

Byddai buddugoliaeth i Lafur yma eleni yn ergyd fawr i'r Ceidwadwyr yng Nghymru.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi cipio Ceredigion a Gogledd Sir Benfro - un o'r hen seddi cyn i Breseli Penfro fodoli - ond dyw'r un o'r ddwy blaid wedi gadael eu marc ers newid y ffiniau.

Mae'r etholaeth yn cyfuno gogledd y sir - parth Cymraeg ei hiaith yn draddodiadol - a thalp o'r Lloegr fach i'r de o'r Landsker, gan gynnwys y dref sirol Hwlffordd a phorthladd diwydiannol Aberdaugleddau.

Er bod Preseli Penfro yn cynnwys rhai o draethau a phentrefi hyfrytaf Cymru, dyw hi ddim yn ardal sydd heb ei phroblemau.

Disgrifiad,

'Fel cymuned wledig, ni'n cael ein hanghofio'

Porthladdoedd Aberdaugleddau ac Abergwaun, yn ogystal â thwristiaeth ac amaethyddiaeth yw asgwrn cefn yr economi leol.

Ond mae cyflogau'n parhau'n isel. Mae incwm canolog Sir Benfro gyda'r isaf yng Nghymru.

Mae'r adwy rhwng cyflogau lleol a phrisiau tai ymhlith y mwyaf ym Mhrydain ac wrth i deuluoedd ifanc adael yr ardal mae poblogaeth oedrannus yn gosod straen ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae'r ymgais i israddio neu ddisodli Ysbyty Llwynhelyg wedi ei wrthwynebu'n chwyrn yn lleol.

Ond mae'r ysbyty yn cael ei beirniadu'n gyson, yn fwyaf diweddar am yr amseroedd aros yn yr uned frys.

Ansicrwydd Brexit

Mae cysylltedd yr etholaeth hefyd yn bwnc trafod. Er bod y gwasanaethau trên wedi amlhau yn y blynyddoedd diwethaf mae'r brif ffordd - yr A40 - yn aml yn brysur ac yn araf.

Erbyn hyn mae rhaglen gwerth £50m wedi dechrau yn sgil galwadau cyson i droi'r ffordd yn un ddeuol.

Ac yn gwmwl dros y cyfan mae'r ansicrwydd ynghylch Brexit gyda neb yn siŵr iawn beth fyddai effaith hynny ar borthladd fferi Abergwaun, y diwydiant ynni o gwmpas Aberdaugleddau a gweddill economi'r sir.

Pwy sy'n sefyll?

  • Stephen Crabb - Ceidwadwyr

  • Thomas Hughes - Dem. Rhydd.

  • Philippa Thompson - Llafur

  • Cris Tomos - Plaid Cymru