Drakeford: Corbyn ddim yn broblem i obeithion Llafur

  • Cyhoeddwyd
Jeremy CorbynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod Jeremy Corbyn (uchod) yn ysbrydoli pobl ifanc

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwadu fod Jeremy Corbyn yn broblem i obeithion Llafur yn yr etholiad cyffredinol.

Yn ôl Mark Drakeford roedd pobl yn dweud pethau dipyn gwaeth am Boris Johnson ar garreg y drws.

Roedd gweledigaeth radical Jeremy Corbyn, meddai, yn ysbrydoli pobl ifanc i gefnogi Llafur.

"Am bob person dwi'n weld sy'n dweud dydyn nhw ddim yn siŵr am Jeremy, dwi'n cwrdd gyda rhywun arall, person ifanc sy'n dweud, dwi'n pleidleisio Llafur achos mae Jeremy Corbyn wedi bod yn arweinydd mor radical sydd wedi dangos iddyn nhw fod yna ffordd arall o wneud pethau," meddai Mr Drakeford.

'Nid un person yw ymgyrch'

Wrth ymateb i feirniadaeth nad oedd Mr Corbyn wedi bod i Gymru yn ystod yr ymgyrch dywedodd ei fod yn dod i Gymru nifer o weithiau bob blwyddyn.

"Roedd e yma yn yr haf, roedd e yma yn yr hydref, ac mae e'n dod 'nôl i Gymru dros benwythnos ola'r ymgyrch," meddai.

"Mae e eisiau dod yma ar y pwynt mae'n bwysig iddo ddod yma."

Dywedodd nad oedd ef ei hun wedi ei wahodd i gymryd rhan yn y dadleuon teledu ac mai ymgeiswyr ar gyfer San Steffan oedd yn bwysig.

"Dwi'n rhan o'r ymgyrch," meddai, "nid un person yw'r ymgyrch yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad yw'n ei chael hi'n anodd i egluro safbwynt Llafur ar Brexit wrth ymgyrchu

Cafodd perfformiadau rhai o gynrychiolwyr Llafur ar y dadleuon teledu eu disgrifio fel "embaras" gan yr Aelod Cynulliad, Alun Davies am iddyn nhw ddangos anwybodaeth ynglŷn â materion sydd wedi eu datganoli.

Ond mynnodd Mr Drakeford fod hyn yn dangos eu bod nhw'n deall pwysigrwydd datganoli ac nad oedd disgwyl iddyn nhw wybod am feysydd doedden nhw ddim yn gyfrifol amdanyn nhw.

"Maen nhw'n gwybod, dydyn nhw a dydy San Steffan ddim yn gyfrifol am bethau fel 'na, yn nwylo llywodraeth Llafur Cymru mae pethau fel yna," meddai.

Dywedodd nad oedd ef wedi ei chael hi'n anodd egluro safbwynt Llafur ar Brexit ac y byddai'r blaid yng Nghymru yn ymgyrchu dros aros mewn refferendwm newydd.