Jeremy Corbyn ar ymweliad â Chymru ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Jeremy CorbynFfynhonnell y llun, Victoria Jones/ PAMedia
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jeremy Corbyn yn ymweld a siop goffi yn Y Barri fore Sadwrn

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn treulio penwythnos olaf yr ymgyrch etholiadol yng Nghymru, wrth iddo ymweld ag Abertawe, Caerfyrddin a Bangor.

Mae llai nag wythnos i fynd nes y bydd etholwyr ar draws y DU yn taro eu pleidlais ddydd Iau, 12 Rhagfyr.

Fe wnaeth Mr Corbyn yn ymweld â busnesau bach yn Y Barri fore Sadwrn cyn cynnal rali yn Abertawe, cyn teithio ymlaen i Gaerfyrddin.

Fe fydd arweinydd y Blaid Lafur yna'n ymweld â Bangor a Chonwy wrth iddo deithio ar hyd arfordir gogledd Cymru yn y prynhawn.

'Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'

Dywedodd Mr Corbyn y bydd ei blaid yn sicrhau bod "pobl yn clywed ein lleisiau" yn y diwrnodau olaf cyn yr etholiad ddydd Iau.

"Mae hi'n gyffrous bod 'nôl yng Nghymru ar y penwythnos olaf cyn y diwrnod pleidleisio gyda'n neges o obaith y bydd Llafur yn adeiladu cymdeithas decach, fwy cyfartal," meddai cyn ei ymweliad.

Wrth ymweld ag Abertawe dywedodd Mr Corbyn ei fod yn "benderfynnol o ennill yr etholiad ddydd Iau."

"Mae'r blaid Lafur yn benderfynnol o ennill yr etholiad yma ac rydym yn mynd allan gyda maniffesto trawsnewidiol fydd yn gwella bywydau pobl ar draws y DU.

"Rwy'n falch iawn ohono ac yn benderfynnol o ennill," meddai.