Etholiad 2019: Disgwyl 'brwydr ffyrnig' ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Ynys Môn yn etholaeth nodedig am sawl rheswm.
Hon oedd yr etholaeth wledig gyntaf i ethol aelod seneddol Llafur, yr etholaeth Gymreig gyntaf i ethol menyw a'r unig etholaeth i gael ei chynrychioli gan y pedair prif blaid Gymreig.
Mae hon hefyd yn etholaeth sy'n tueddu ond newid dwylo wrth i'w haelod seneddol ymddeol.
Pan gyhoeddodd Albert Owen felly ei fod am roi'r ffidl yn y to roedd h'n anorfod y byddai 'na frwydr ffyrnig i'w olynu.
Pleidleisiodd Môn o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd o fwyafrif bychan, ond gallasai union ffurf Brexit effeithio ar Gaergybi - sy'n ail i Dover yn unig fel porthladd fferi prysuraf y DU.
Fe fydd ffermwyr yr ynys hefyd yn awyddus i sicrhau'r cytundeb Brexit gorau posib.
Gyda'r cynlluniau ar gyfer atomfa newydd yn Wylfa a'r galwadau am drydedd bont ar draws y Fenai, mae hon yn etholaeth lle y gallai safon yr ymgeiswyr a phynciau lleol fod cyn bwysiced â'r frwydr ehangach pan ddaw hi'n bryd cyfri'r pleidleisiau.
Pwy sy'n sefyll?
Aled ap Dafydd - Plaid Cymru
Virginia Crosbie - Ceidwadwyr
Helen Jenner - Plaid Brexit
Mary Roberts - Llafur
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019