Glowyr pwll Gleision: Angladd ola'
- Cyhoeddwyd

Y pedwar glöwr fu farw: Charles Breslin, Phillip Hill (uchaf) a Garry Jenkins, a David Powell (gwaelod, chwith i dde)
Cyhoeddwyd y bydd angladd y pedwerydd glöwr fu farw yng Nghwm Tawe yn cael ei chynnal ddydd Gwener.
Bydd David Powell yn cael ei gladdu yn Eglwys Dewi Sant, Ystalyfera, am hanner dydd.
Dyma'r olaf o'r angladdau wedi i'r pedwar dyn farw ym mhwll glo Gleision yng Ngilybebyll ger Pontardawe fis diwetha'.
Cafodd angladd Charles Breslin, 62 oed o Gwm Tawe, ei chynnal yn Amlosgfa Treforys ddydd Mercher, Medi 28.
Cynhaliwyd angladd Phillip Hill, 45 oed o Gastell-nedd, yn Amlosgfa Margam ddeuddydd yn ddiweddarach, gydag angladd Garry Jenkins, 39 oed o Gwm Tawe, yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch Isa y dydd Sadwrn canlynol.
Mae Heddlu'r De a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r ddamwain.
Y Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu'r De sy'n arwain yr ymchwiliad i'r marwolaethau.
Dywedodd y byddai'r ymchwiliad yn "hir a chymhleth ond y byddwn yn gwneud popeth posib i ddarganfod sut y collodd y pedwar eu bywydau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011