Ansicrwydd am hen adeilad yr YMCA ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae'r hen YMCA ym Merthyr Tudful wedi ei enwi yn un o'r adeiladu sydd fwyaf mewn peryg ym Mhrydain.
Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd 2 ei adeiladu ym 1911 ond yn awr mae angen atgyweiriadau brys arno.
Dywedodd Elaine Davey o'r grŵp treftadaeth, Y Gymdeithas Fictoraidd, y byddai'r gwaith adnewyddu yn costio £1 miliwn.
Mae'r YMCA wedi ei enwi fel un o'r 10 adeilad ym Mhrydain sydd fwyaf mewn peryg.
Campwaith pensaernïol
Dywedodd y Gymdeithas Fictoraidd fod yr adeilad pedwar llawr, sydd ar werth am £99,000, wedi bod yn rhan bwysig o bensaernïaeth Merthyr ers canrif.
Ychwanegodd y gymdeithas fod yr YMCA a gafodd ei ddylunio gan un o benseiri mwyaf pwysig Cymru, Syr Percy Thomas, mewn cyflwr gwael iawn.
Mae'r adeilad yn mynd â'i ben iddo ac mae'r to wedi'i erydu'n wael.
Dywedodd Ms Davey fod Syr Percy Thomas wedi ennill cystadleuaeth i adeiladu'r YMCA ym Merthyr a dyma oedd ei gampwaith pensaernïol cyntaf.
Ef oedd yn gyfrifol am ddylunio adeilad Bute yng Nghaerdydd a neuadd y dref yn Abertawe.
"Mae'n bwysig i ni ddal gafael ar ein hadeiladau hen, mae'n bwysig i ni gadw cysylltiad â'n gwreiddiau." meddai Ms Davey.
"Mae'r adeilad yn dweud cyfrolau am ein hanes ac am gyfoeth Merthyr ar y pryd.
"Gallai gosti hyd at £1 miliwn i adfer yr adeilad ond ni fyddai'n amhosib cyflawni'r gwaith pe bai yna ymroddiad gwleidyddol ac ariannol."
Dywedodd y Dr Ian Dungavell, cyfarwyddwr y Gymdeithas Fictoraidd, ni fyddai'r cenedlaethau sydd i ddod yn "ein maddau" i adael adeiladau fel yr YMCA fynd i'r gwellt.
"Mae'r adeilad wedi goroesi dau gais i'w ddymchwel gan gyn perchnogion ac mae'r adeilad ar werth unwaith eto," meddai.
"Mae'n rhaid i unrhyw berchennog newydd sylweddoli fod gan yr adeilad botensial i gael ei ddefnyddio eto cyn i'w gyflwr dirywio."
Mae'r adeiladau eraill sydd ar restr y gymdeithas yn cynnwys hen orsaf rheilffordd yn Peterborough a hen ffatri lin yn Leeds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011