Hain: 'Ariannwch yr achubwyr yn well'

  • Cyhoeddwyd

Mae llefarydd Llafur ar Gymru, Peter Hain AS, wedi galw ar Lywodraeth y DU i gael trefn gyllido well i achubwyr pyllau glo.

Honnodd fod trychineb pwll y Gleision ger Cilybebyll wedi amlygu gwendidau a allai fod yn farwol.

Dywedodd AS Castell-nedd fod anghydfod am rai biliau a bod cwmni glo arall gerllaw wedi talu am ran o gost yr ymgyrch achub.

Bu farw David Powell, Charles Breslin, Philip Hill a Garry Jenkins yn y drychineb pan aeth dŵr i mewn i'r pwll yr oedden nhw'n gweithio ynddo.

'Gwendid'

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw David Powell, Charles Breslin, Philip Hill a Garry Jenkins yn y drychineb

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud nad ydyn nhw wedi derbyn cais ffurfiol am arian oddi wrth Heddlu De Cymru.

Mewn adroddiad gafodd ei anfon at yr Ysgrifennydd Cartref, Teresa May, mae Mr Hain wedi dweud: "Mae trychineb y pwll ym mis Medi 2011 wedi adnabod gwendid allai fod yn angheuol yn nhrefn gyllido Gwasanaeth Achub Pyllau Glo ac Awdurdod Heddlu De Cymru ac mae angen i'r llywodraeth edrych ar hyn ar frys.

"Ar sawl adeg yn ystod yr ymgyrch achub ac wedyn yn ystod yr ymchwiliad roedd anghytuno am dalu biliau ac fe wnaeth cwmni Walters Mining yn Aberpergwm gerllaw dalu bil o £4,500 am danwydd disel ar gyfer y pympiau dŵr.

"Pe na bai'r cwmni wedi gwirfoddoli i wneud hyn (heb unrhyw sicrwydd o gael eu harian yn ôl) fe allai'r ymgyrch achub fod wedi stopio."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae modd i heddluoedd wneud cais i ni am gymhorthdal er mwyn cwrdd â chostau arwyddocaol y mae angen eu talu oherwydd amgylchiadau eithriadol.

'Ewyllys da'

"Nid ydym wedi derbyn cais ffurfiol oddi wrth Heddlu De Cymru.

"Pe bai cais yn dod fe fyddai gweinidogion yn ei ystyried yn ofalus."

Honnodd Mr Hain hefyd fod achubwyr, heddlu ac arolygwyr iechyd a diogelwch "yn dibynnu ar ewyllys da cwmnïau glo eraill i ryddhau staff achub rhan-amser a staff pwysig arall".

Mae wedi anfon copi o'i adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, gan ei annog i "gyllido'r Gwasanaeth Achub Pyllau Glo yn iawn".

"Fe wnaeth yr Arolygydd Pyllau a'r holl weithwyr achub weithio'n arwrol yn ystod trychineb Gleision ond ni ddylai hynny dynnu sylw oddi wrth y ffaeleddau y mae wedi eu hamlygu."