Trafodaethau am daliadau ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cynrychiolydd o Gymdeithas Tir a Busnes Cymru (CLA) yn teithio i Frwsel ddydd Mercher ar gyfer trafodaethau am daliadau o Ewrop i ffermwyr Cymru.
Fe fydd taith Sue Evans, ymgynghorydd polisi'r CLA, yn dechrau gyda thrafodaeth gyda Sefydliad Tirfeddianwyr Ewrop cyn cwrdd gydag ymgynghorydd polisi amaeth Llywodraeth Cymru ym Mrwsel, Andrew Aggett.
Mae undebau amaeth eisoes wedi mynegi pryder am newidiadau i'r taliadau y bydd ffermwyr yn eu cael o Ewrop.
Bydd y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yn cael ei ddiwygio yn 2013 i gyd-fynd â chyllideb newydd yr Undeb Ewropeaidd.
Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru yn derbyn £260m o'r cynllun, sy'n cynrychioli 80% o'u hincwm, tra bod ffermwyr yn y DU yn ei chyfanrwydd yn derbyn £4 biliwn.
Adroddiad
Roedd adroddiad is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn galw ar lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i ddiogelu cyllideb PAC, er mwyn sicrhau nad yw Cymru'n cael swm llai o arian ar ôl 2013.
Roedd yr adroddiad yn nodi y dylai darparu incwm digonol i ffermwyr a diogelwch bwyd barhau i fod yn brif amcanion ar gyfer y PAC, ac y dylid sicrhau bod cymorth i gynhyrchu bwyd mewn ardaloedd llai ffafriol yn cael ei ddiogelu.
Dywedodd Sue Evans: "Pwrpas y newid yma ddylai fod i ddod ag Ewrop gyfan i fyny at safon y gwledydd sy'n perfformio orau, fel Cymru.
"Yn fwy penodol, yn nhermau cyfiawnder, rhaid i ni sicrhau fod mesurau gwyrdd yn gyfartal drwy'r Undeb Ewropeaidd."
Ychwanegodd y bydd yn lobïo yn erbyn y diffiniad o 'ffermwyr gweithredol' a fyddai'n anodd ei weithredu, ac yn erbyn capio taliadau a fyddai'n gwahaniaethu yn erbyn ffermwyr o Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd30 Medi 2011