Awdur o Belfast, Lucy Cadwell, yn cipio gwobr Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Lucy CaldwellFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae nofel Lucy Caldwell yn adrodd hanes gweinidog Cristnogol a'i wraig yn symud i Bahrain

Awdur a dramodydd o Belfast yw enillydd Gwobr Dylan Thomas o £30,000.

Cyflwynwyd y wobr i Lucy Caldwell mewn seremoni arbennig yn Abertawe nos Fercher.

Disgrifiwyd ei nofel The Meeting Point gan y beirniaid fel "myfyrdod aeddfed ar hunaniaeth, teyrngarwch a chred mewn byd cymhleth wedi ei ysgrifennu'n hyfryd".

Mae'r wobr yn cael ei roi'n flynyddol i awdur ifanc am nofel, drama, barddoniaeth neu lyfr teithio.

Ms Caldwell yw pedwerydd enillydd y wobr, ac fe ddaeth i'r brig ar restr fer o awduron o bedwar ban byd.

Mae'r nofel yn adrodd hanes gweinidog Cristnogol a'i wraig wrth symud i Bahrain.

'Trawiadol'

Dywedodd sylfaenydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru, yr Athro Peter Stead, bod yma "ddameg fodern".

"Mae The Meeting Point yn ddameg fodern wedi ei gosod yn Bahrain yn darlunio'r argyfwng yn ffydd a phriodas Gwyddeles a'i pherthynas gyda llanc Mwslemiaid yn ei arddegau.

"Cafodd ei 'sgrifennu'n hyfryd, ac mae'n fyfyrdod aeddfed ar hunaniaeth, teyrngarwch a chred mewn byd cymhleth.

"Does dim amheuaeth gennym fod hwn yn gam sylweddol arall yn yr hyn a fydd heb os yn yrfa drawiadol."

Yr enwau eraill ar y rhestr fer oedd Tea Obrecht - a enillodd Wobr Orange am Ffuglen eleni; Benjamin Hale (y ddau o Efrog Newydd); Annabel Pitcher o Sir Efrog a Jacob McArthur Mooney, bardd o Ganada.

Roedd wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis, yn bresennol yn y seremoni nos Fercher.

Cafodd Lucy Caldwell ei geni yn Belfast yn 1981.

Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Queen's, Caergrawnt cyn gwneud gradd yn Goldsmith's mewn Ysgrifennu Creadigol.

The Meeting Point yw ei hail nofel, ac mae hefyd wedi ennill gwobrau am ysgrifennu drama ac wedi cael comisiwn i ysgrifennu un arall ar gyfer Theatr y Royal Court.

Yn gynharach eleni, enillodd Wobr Rooney am lenyddiaeth Wyddelig.

Roedd ei henw ar y rhestr fer am wobr Dylan Thomas yn 2006 am ei nofel gyntaf Where They Were Missed.

Dywedodd llywydd Prifysgol Cymru, Marc Clement: "Gobeithio y bydd ennill y wobr o £30,000 yn caniatáu iddi ddatblygu ei thalent anferthol heb y pwysau ariannol sy'n wynebu cymaint o awduron ifanc heddiw.

"Nod Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru yw nid yn unig dathlu Dylan ei hun, ond hefyd i annog, cefnogi a meithrin talent mewn awduron ifanc ar draws y byd, a dyna sy'n gwneud y wobr unigryw hon yn un o wobrau llenyddol pwysica'r byd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol