Edwards: Targedu 'mawredd' Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun EdwardsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hyfforddwr amddiffyn, Shaun Edwards, yn rhagweld dyfodol disglair i Gymru

Yn ôl Shaun Edwards, roedd y potensial yng ngharfan Cymru wedi helpu i'w berswadio i dderbyn cytundeb newydd.

Mae Edwards, 45 oed, wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd i barhau fel hyfforddwr amddiffyn Cymru o dan y prif hyfforddwr, Warren Gatland.

Daeth ei gytundeb blaenorol i ben ar ôl Cwpan y Byd, ac am gyfnod roedd 'na ddyfalu y byddai'n ymuno â thîm hyfforddi Lloegr.

"Ar ôl dod yn ôl o Gwpan Rygbi'r Byd mae rhywun yn gallu gweld llawer o botensial yn nhîm Cymru dros y blynyddoedd nesa' a 'dwi eisiau bod yn rhan o hynny," meddai.

"Warren yw'n harweinydd ni'n amlwg ac mae 'na dîm agos o hyfforddwyr oddi tano: Fi, Robin (McBryde), Rob (Howley) a Jenks (Neil Jenkins).

"'Da ni gyd yn deyrngar i'n harweinydd a gobeithio y gallwn ni arwain y chwaraewyr ifanc yma fel eu bod yn cael eu cofio fel mawrion y gamp, nid dim ond fel chwaraewyr rhyngwladol."

Roedd Peter Thomas, cadeirydd Gleision Caerdydd hefyd wedi dweud y byddai'n hoffi denu Edwards fel hyfforddwr amddiffyn rhan-amser.

Dyw Edwards ddim eto wedi diystyru rôl gyffelyb gyda'r rhanbarth, ond mae'n dweud nad oes unrhyw gynnig cadarn wedi'i wneud ac mae'n ystyried y posibilrwydd o gymryd rôl rhan amser gydag un o glybiau uwchgynghrair Lloegr.

"Fe fyddwn i wedi'i ystyried ond 'dwi ddim wedi gweld unrhyw gynnig cadarn gan Gleision Caerdydd," meddai Edwards.

"Yn amlwg 'dwi'n 'nabod llawer o'r bechgyn yn barod ac yn sicr, mae'r Gleision - yn enwedig pan fo ganddyn nhw dîm llawn allan - yn dîm cryf iawn, fel y profon nhw nos Wener.

"Mae'n rhywbeth y byddwn i'n ystyried, ydy, ond byddwn i hefyd yn ystyried aros yn uwchgynghrair Lloegr hefyd.

"Ond does dim sicrwydd o hynny ac mae'n rhaid i mi gysylltu â phobl nawr i weld a fyddai yna ddiddordeb yn y math yna o rôl.

"Fe fydda' i'n dal i ddefnyddio Llundain fel canolfan - er y byddaf yn treulio mwy a mwy o amser yng Nghymru - gan fod gen i fab 14 oed...a 'dwi eisiau bod o gwmpas iddo fo hefyd."

Gadawodd Edwards ei swydd fel prif hyfforddwr Wasps ym mis Tachwedd ac roedd 'na ddyfalu y byddai'n ymuno â thîm hyfforddi Lloegr yn dilyn eu hymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd.

"Roedd 'na lawer o sôn am gynnig posib gan Loegr yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i mi fyw yn y presennol," cyfaddefodd Edwards.

Dyfodol

"Mae hyfforddwyr Lloegr yn dal yn eu swyddi a 'dwi ddim y math o berson i chwilio am swyddi pobl eraill.

"Mae'r dyfodol yn aros yn y dyfodol a'r cyfan 'dwi'n feddwl amdano yw curo Awstralia ar Ragfyr 3.

"Roedd cyflymder a phroffesiynoldeb Roger Lewis (prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru) wrth ddelio â'r holl beth wedi creu argraff arna' i ac rwy'n amlwg yn hapus iawn yng Nghymru.

"Rwy'n hapus gyda'r strwythur hyffordd sydd gennym yng Nghymru ac yn hapus i fod yn gweithio gyda thîm cryf, sy'n datblygu."

Bydd rhan o orchwyl Edwards yn cynnwys rôl flaenllaw gyda thimau ieuenctid Cymru, yn cydweithio'n agos gyda chyn gydweithiwr yn Wigan, Joe Lydan - pennaeth perfformiad a datblygiad URC.

"Rwy'n bendant yn bwriadu gwneud mwy gyda'r chwaraewyr ifanc nawr wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd ac anelu at ennill capiau," ychwanegodd Edwards.

"Fe fydda' i'n cynnal sesiynau gyda chwaraewyr o'r grwpiau 16, 18 ac 20au ac rwy'n edrych 'mlaen yn arw.

"Mae'r cyfan yn ymwneud â sicrhau bod y chwaraewyr yma'n datblygu yn y modd cywir."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol