Gareth Bale yn rhoi Cymru o flaen Prydain

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi bod ar ei orau i'w glwb a'i wlad yn ddiweddar

Mae Gareth Bale wedi dweud y byddai'n rhoi'r uchelgais o chwarae i Brydain yn y Gemau Olympaidd i'r naill ochr petai'n bygwth dyfodol annibyniaeth Cymru.

Mae cryn son wedi bod y bydd Bale yn un o sêr tîm pêl-droed Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

Ond dywedodd y chwaraewr 22 oed: "Y peth pwysicaf i mi yw Cymru fel gwlad.

"Rwy'n falch o fedru chwarae dros Gymru.

"Os oes unrhyw bosibilrwydd na fydd Cymru'n parhau, yna yn amlwg fyddwn i ddim yn chwarae (yn y Gemau Olympaidd)."

'Unwaith mewn oes'

Mae Bale yn y gorffennol wedi mynegi ei ddyhead i chwarae yn y Gemau, ac fe achosodd cryn ddadlau ym mis Hydref pan gafodd dynnu ei lun yn gwisgo crys cefnogwyr Prydain.

Mae Bale wedi bod ar ei orau i'w glwb a'i wlad yn ddiweddar, ac ychydig fyddai'n dadlau ei fod yn haeddu ei le mewn unrhyw dîm Olympaidd.

"Mae'n gyfle unwaith mewn oes," ychwanegodd.

"Gobeithio y caiff pob dim ei sortio fel y gallaf chwarae os caf fy newis."

Byddai Bale yn mynd yn groes i ddymuniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) petai'n chwarae yn y Gemau Olympaidd.

Dim ar bapur

Mae CBC, ynghyd â Cymdeithasau'r Alban a Gogledd Iwerddon, yn poeni y byddai hynny'n arwain at wledydd eraill yn mynnu y dylai'r pedair gwlad chwarae fel un genedl bob tro yn y dyfodol.

Mae corff rheoli pêl-droed y byd, FIFA, wedi dweud sawl tro na fyddai bod yn rhan o dîm Prydain yn peryglu eu hannibyniaeth, ond does dim byd wedi ei roi ar bapur yn swyddogol.

Cafodd capten Cymru, Aaron Ramsey, hefyd dynnu ei lun yn gwisgo'r crys cefnogwyr, ac mae yntau a Joe Allen wedi mynegi diddordeb mewn chwarae i dîm Prydain.

Ond mae Ramsey eisoes wedi dweud hefyd na fyddai'n gwneud unrhyw beth i beryglu dyfodol Cymru fel gwlad annibynnol yn y byd pêl-droed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol