Gareth Bale 'wedi cael cyngor gwael'
- Cyhoeddwyd
Mae llefarydd ar ran cefnogwyr Cymru wedi dweud fod Gareth Bale "wedi cael cyngor gwael" cyn cael tynnu ei lun yn gwisgo crys tîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Mae Vince Alm ymhlith y rhai sy'n credu y byddai cael tîm Prydain yn y Gemau yn tanseilio hunaniaeth Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o fewn y gamp.
Mae Bale wedi dweud y byddai'n hoffi cynrychioli Prydain, ac mae FIFA - corff rheoli pêl-droed y byd - wedi ceisio tawelu ofnau'r gwledydd.
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwrthwynebu i'w chwaraewyr fod yn rhan o dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.
Bydd dynion Prydain yn cystadlu am y tro cyntaf ers 1960, ac mae hyfforddwr dan-21 Lloegr, Stuart Pearce - wedi cael ei benodi'n hyfforddwr ar gyfer 2012.
'Mwyafrif yn erbyn'
Ond dywedodd Mr Alm - cadeirydd Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru - fod pryder ymysg nifer o gefnogwyr.
"Rwy'n credu fod Bale wedi cael cyngor gwael. Mae mwyafrif cefnogwyr Cymru yn erbyn y peth.
"Fedrwch chi gael Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, fedrwch chi gael un tîm rygbi, ond mae pêl-droed yn hollol wahanol.
"Gallai hyn olygu diwedd y gwledydd cartre, ac rwy'n meddwl y byddai hynny'n drist.
"Rwy'n deall pam fod Gareth wedi gwneud hyn. Rydym yn Gymry ac yn Brydeinwyr. Ond y mater pwysig yw colli ein hunaniaeth genedlaethol.
"Rhaid i'r chwaraewyr fod yn ymwybodol o hyn os oes ganddyn nhw ddyheadau i chwarae i dîm Prydain. Mae angen dweud wrthyn nhw beth fydd y goblygiadau os bydd tîm Prydain."
Bydd Cymru'n wynebu Norwy mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Dachwedd 12, ac mae disgwyl i Bale gael ei enwi yng ngharfan Gary Speed.
Er gwaetha'r dadlau, mae Mr Alm yn annog y ffyddloniaid i gefnogi Bale.
"Gadewch i ni beidio gelyniaethu'n hunain oddi wrth Gareth Bale," meddai.
"Y ffordd i ddelio gyda hyn yw trwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Mae pwy bynnag fydd yn gwisgo'r crys coch ac yn chwarae dros ei wlad yn haeddu ein cefnogaeth.
"Mae'n chwaraewr o safon arbennig, ac rydym ei angen ar ei orau os yw Cymru am barhau i ddringo rhestr detholion y byd a chyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2011