'Talcen caled' i'r coleg Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae denu myfyrwyr gwyddonol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Coleg Cymraeg cenedlaethol, yn "dalcen caled".

Dyna ddywedodd Cadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg, Hefin Jones.

Erbyn diwedd y flwyddyn academaidd y nod yw denu 1,000 o fyfyrwyr i ymaelodi â'r Coleg.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4 miliwn yn flynyddol yn y Coleg.

Cafodd cyfarfod cynta' y bwrdd ei gynnal ddydd Mercher yng Nghaerfyrddin.

Mewn cyfweliad arbennig gyda BBC Cymru dywedodd Dr Jones, sydd hefyd yn wyddonydd, mai sicrhau strategaeth genedlaethol o ran addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yw eu gwaith mwya' ar hyn o bryd.

"Mae staff y dyniaethau yn ei chael yn haws denu myfyrwyr na'r gwyddorau," meddai.

Targed

"Er hynny mae 'na enghreifftiau gwych iawn o fewn y gwyddorau lle mae myfyrwyr hefyd yn astudio drwy'r Gymraeg.

"Hefyd fe ddylen ni edrych ar swyddi galwedigaethol, y byd meddygol, gofal iechyd ac ati."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cychwynnodd y coleg yn gynharach eleni

Agorodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer ei flwyddyn lawn gyntaf yr hydref yma.

Dywedodd Dr Jones bod hi'n anodd rhoi ffigwr ar y nifer sy'n astudio drwy'r Gymraeg gan ei bod yn ddyddiau cynnar.

"Mae'r coleg wedi rhoi targed o tua 1,000 i ymaelodi gyda'r coleg erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.

"Mae dwy ran o dair o'r targed wedi ei gyrraedd eisoes gyda rhai disgyblaethau yn gwneud yn well nag eraill.

"Mae 'na gwestiwn anodd i'w ateb - a ydan ni am geisio sicrhau addysg Gymraeg ym mhob disgyblaeth ac ym mhob pwnc ac ym mhob sefydliad?"

Mae'r coleg yn cynnig cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg oddi mewn i nifer o sefydliadau addysg uwch ar hyd a lled Cymru.

Mae 25 o ddarlithwyr newydd wedi eu penodi eisoes ar gyfer cynnig cyrsiau drwy'r iaith.

Mae'r rheolwyr yn gobeithio y bydd dros 100 o ddarlithwyr yn cael eu penodi o fewn dwy neu dair blynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol