Prifwyl: Cadarnhau colled o £90,000
- Cyhoeddwyd
Yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn cadarnhawyd bod Prifwyl Wrecsam a'r Fro wedi gwneud colled ariannol o £90,000.
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Bu'n flwyddyn anodd i'r Eisteddfod fel cynifer o sefydliadau eraill, oherwydd hinsawdd economaidd y wlad.
"Cafodd hyn effaith ar incwm tocynnau cyngherddau, stondinau a nawdd corfforaethol, a thrwy hynny, gwnaethpwyd colled o 4% eleni.
"Llwyddwyd i reoli gwariant yr Eisteddfod ac unwaith eto eleni nid yw'r golled yma'n arwydd o unrhyw gamreoli gwariant.
"Neithiwr rhoddodd y Bwrdd Rheoli sêl bendith i £200,000 o arbedion ac mae'r Tîm Rheoli'n gweithio ar y manylion ar hyn o bryd.
'Gwarchod'
"Yn ddi-os, bydd newidiadau o 2012 ymlaen, gyda nifer o'r rhain yn newidiadau gweledol, ond y prif amcan yw gwarchod gweithgareddau diwylliannol y Brifwyl a diogelu staff."
Cyhoeddwyd adroddiad Eisteddfod Wrecsam a'r Fro ar wefan yr Eisteddfod.
Ddydd Gwener dywedodd cyn-Weinidog Treftadaeth Cymru ei bod hi'n anodd rhagweld sut mae modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ariannol.
Daeth sylwadau Alun Ffred Jones ar BBC Radio Cymru ddiwrnod wedi newyddion bod y Brifwyl yn Wrecsam eleni wedi gwneud colled.
Y llynedd fe wnaeth Eisteddfod Blaenau Gwent golled o £47,000 ond rhwng 2006 a 2009 fe wnaeth yr ŵyl elw.
Ar y Post Cyntaf fore Gwener dywedodd Mr Jones ei fod a phawb arall yn gwerthfawrogi'r hyn yr oedd yr Eisteddfod yn ei gynnig i bobl Cymru.
Ymdrechion pobl leol
"Ond all yr Eisteddfod ddim parhau fel y mae.
"Dwi'n siŵr bod hyn (y golled) yn bryder i awdurdodau'r Eisteddfod a phawb sy'n poeni am les y Brifwyl."
Er hynny, meddai, roedd sawl agwedd ar Eisteddfod Wrecsam yn llwyddiannus.
"Wrth edrych ymlaen at y tymor canolig mae 'na gwestiynau sylfaenol ynglŷn â all yr Eisteddfod barhau yn ei ffurf bresennol.
"Efallai ein bod yn wynebu cyfnod o bedair, pump neu 10 mlynedd hwyrach lle bydd arian cyhoeddus yn brin a lle bydd pobl 'efallai' yn edrych yn ofalus lle maen nhw'n gwario arian ac mae cwmnïau yn edrych yn ofalus ar y nawdd.
"Dydi'r amgylchiadau ddim yn ffafriol."
'Dilema'
Dywedodd nad ei le oedd awgrymu pa newidiadau y dylai'r Eisteddfod eu gwneud ond yn sicr "os ydach chi'n cadw'r Eisteddfod fel y mae, mae 'na gostau sylfaenol ynghlwm wrthi hi".
"Y cwestiwn yw gwario'r arian yn fwy ar gontractwyr a gosod y Maes nag ar yr hyn sy'n sylwedd sef y diwylliant," meddai.
"Ond os ydach chi'n tynnu'r Maes, yna does 'na ddim canolbwynt i'r digwyddiad, dim lle, man cyfarfod i'r Cymry.
"Mae'n ddilema.
"Dwi ddim yn meddwl y bydd yr Eisteddfod yn newid yn y blynyddoedd nesa ond dwi ddim yn gweld nad oes 'na ddewis ond gwneud newidiadau pellgyrhaeddol yn y dyfodol."
£493,000
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr Eisteddfod wedi derbyn cymhorthdal o £493,000 ar gyfer 2011-12 drwy law Bwrdd yr Iaith.
Hefyd fe roddwyd £25,000 ar gyfer cynllun oedd yn caniatáu i'r Eisteddfod gynnig 10,000 o docynnau am bris gostyngedig.
Ychwanegodd Mr Jones nad oedd yn credu bod 'na beryg i'r nawdd yn y tymor byr na'r tymor canolig.
"Yn amlwg, dydi'r nawdd ddim yn ddigon i sicrhau llwyddiant ariannol.
"Os oes 'na bethau eraill yn cael eu colli fel nawdd cwmnïau, yna fe fydd yn wynebu'r un sefyllfa flwyddyn ar ôl blwyddyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2011