Gobaith am dollau'r Hafren

  • Cyhoeddwyd
Pont Hafren
Disgrifiad o’r llun,

O fis Ionawr, bydd yn costio £6 i geir groesi Pontydd Hafren

Mae'r Canghellor, George Osborne, wedi addo ystyried y gost o groesi Pontydd Hafren wedi iddo haneru'r gost o groesi Afon Humber.

Dywedodd Mr Osborne yn ei Ddatganiad Hydref y gallai fod cytundeb a'i fod yn awyddus i drafod gyda Llywodraeth Cymru.

Roedd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y diffyg gweithredu i leihau'r tollau yn "siomedig iawn".

Bydd tollau i geir sy'n croesi Pontydd Hafren yn codi i £6 o Ionawr 1, 2012.

Bydd faniau a bysiau bach yn talu £12.10 - cynnydd o 60c - gyda lorïau a bysiau mawr yn talu £18.10, sy'n gynnydd o 90c.

Mae tollau ar Bont Humber rhwng dwyrain Sir Efrog a gogledd Sir Lincoln yn cael eu talu i'r ddau gyfeiriad, ac ar hyn o bryd yn £3 i geir a hyd at £20.30 am lori fawr.

Cyhoeddodd Mr Osborne y byddai'n diraddio'r ddyled ar y bont yna o £150m gan ganiatáu i'r tollau gael eu haneru.

Roedd y penderfyniad yn rhan o gynllun isadeiledd cenedlaethol y Trysorlys, sy'n cynnwys addewid i wella traffordd yr M4 yn ne Cymru.

Ychwanegodd Mr Osborne fod Llywodraeth y DU yn "agored i gynnal trafodaethau" ar dollau Pontydd Hafren.

Ond pwysleisiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, nad oedd y Trysorlys wedi rhoi'r un toriad ag a roddwyd i Bont Humber. Cafodd ei siom ei atseinio gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.

Cyllid cyfalaf

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater i weinidogion San Steffan oedd gweithredu, gan ddweud:

"Mae pontydd yr Hafren yn eiddo i Lywodraeth y DU. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gosod y tollau, ac nid ydym yn elwa o incwm y tollau.

"Er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun i haneru'r tollau ar Bont Humber, does dim cynllun o'r fath wedi ei gyhoeddi i bontydd Hafren. Mae hyn yn siomedig iawn.

"Rydym yn croesawu datganiad y canghellor y gallai fod cytundeb ar dollau pontydd Hafren, ac yn edrych ymlaen am y trafodaethau hynny."