Trafod effaith mesurau tlodi plant

  • Cyhoeddwyd
Canolfan WaithFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Ledled Ewrop y ganran uchaf o bobl ddi-waith yw'r ifanc

Bydd arbenigwyr plant, gwleidyddion a phobl ifanc o bob rhan o Ewrop yn cwrdd yng Nghaerdydd heddiw i drafod ymdrin â thlodi plant.

Byddant yn dod ynghyd yn Techniquest ar gyfer y gynhadledd dri diwrnod sy'n cael ei threfnu gan y sefydliad Ewropeaidd Eurochild.

Bydd y gynhadledd yn caniatáu i'r cynadleddwyr drafod ffyrdd amrywiol o gefnogi teuluoedd helpu i ymdrin â phroblemau tlodi plant.

Dywedodd Catriona Williams, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru fod y gynhadledd hon yn gyfle i'r sawl sy'n gweithio gyda phlant ar draws yr Undeb Ewropeaidd ddod ynghyd a chyfnewid syniadau am sut mae cefnogi teuluoedd dan yr amgylchiadau hyn.

'Mesurau llymder'

Ychwanegodd: "Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal ar adeg pan fydd teuluoedd ar hyd a lled Ewrop yn dioddef effaith y problemau economaidd.

"Mae diweithdra yn cynyddu o fewn yr UE ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno mesurau llymder.

"Mae hyn yn golygu bod mwy a mwy o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd, a bod mwy o blant yn cael eu magu mewn tlodi."

Ledled Ewrop y ganran uchaf o bobl ddi-waith yw'r ifanc (rhwng 16 a 25 oed) gan greu tlodi o ran uchelgais.

Mae grŵp o bobl ifanc o bob rhan o Ewrop yn cwrdd ochr yn ochr â'r prif ddigwyddiad.

Mae'r bobl ifanc wedi cwrdd ers dydd Llun i drafod eu pryderon a'u profiadau o dlodi plant.

Maent yn cynnwys pobl ifanc o Gymru, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, yr Almaen, Hwngari, Latfia a Slofacia.

Bydd y siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a Radosław Mleczko, Is-ysgrifennydd Gwladol, Gweinyddiaeth Polisi Llafur a Chymdeithasol Gwlad Pwyl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol