Tlodi tanwydd 'yn waeth yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Rheolydd gwres canolog
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw diddymu tlodi tanwydd

Yn ôl arolwg, Cymru sydd â'r ganran uchaf drwy Brydain o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd.

Dywedodd Llais Defnyddwyr fod bron 5.7 miliwn o aelwydydd yng Nghymru a Lloegr mewn tlodi tanwydd.

Mae'r mudiad wedi amcangyfrif bod 41% o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd tra bod 16.9% yn ne ddwyrain Lloegr a 17.8% yn Llundain.

Yr ardaloedd yn Lloegr â'r broblem fwyaf oedd gorllewin y canolbarth gyda 32%, a 30.1% yn y gogledd ddwyrain.

10% o incwm

Mae tlodi tanwydd yn bodoli mewn cartref sy'n gwario mwy na 10% o incwm (gan gynnwys budd-dal tai) ar danwydd i dwymo'r tŷ'n ddigonol.

Yn y cyfamser, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gwario mwy na £130 miliwn ers degawd ar helpu i wneud cartrefi yn fwy effeithlon.

Mae eu strategaeth i sicrhau nad yw rhai o gymunedau tlotaf Cymru mewn tlodi tanwydd yn anelu at dargedau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

'Cynaliadwy'

Dywedodd llefarydd: "Mae ein strategaeth yn gyfle nid yn unig i gynorthwyo'r rhai sy'n cael trafferth talu eu biliau ynni ond hefyd i gefnogi adfywiad economaidd.

"Mae taclo tlodi tanwydd yn digwydd drwy ein cynllun Arbed sy'n gosod offer priodol i wella effeithlonrwydd tai.

"Ond mae'r strategaeth yn esiampl o'n hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy - taclo tlodi tanwydd, creu swyddi a chyfleon busnes a thaclo newid hinsawdd."