Ysgolion: £1.4bn am saith mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £1.4bn wedi ei neilltuo ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif dros gyfnod o saith mlynedd.
Fe fydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cyfrannu £700m yr un wrth i'r arian gael ei wario ar adnewyddu ysgolion ac adeiladu rhai newydd.
Yn wreiddiol, roedd yr ariannu i fod am gyfnod o dair blynedd ond mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at "doriadau sylweddol" Llywodraeth San Steffan.
Blaenoriaethu
Yn wreiddiol, fe wnaeth cynghorau flaenoriaethu pa ysgolion oedd angen eu codi neu eu hadnewyddu rhwng 2012 a 2015.
Ond o dan y drefn newydd, 2014-15 fydd y dyddiad cychwynnol ac fe fydd y cyllid cyfredol ar gael tan 2020-21.
Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd NUT Cymru: "Yn amlwg, rydym yn croesawu'r arian fydd yn cael ei wario ond mae'r gwahaniaeth rhwng yr hyn gafodd ei gynnig yn wreiddiol a'r hyn fydd yn cael ei wario yn golygu na fydd yr effeithiau mor bellgyrhaeddol.
"Fydd y cynllun ddim yn mynd yn ddigon pell ..."
Fel rhan o'r cynllun bydd ysgol newydd gwerth £32m ar gyfer disgyblion 3-19 oed yn ardal Llandysul yn cael ei hadeiladu.
Cyngor Ceredigion fydd yn gorfod dod o hyd i £16 miliwn, £6.4 miliwn yn fwy na'r swm gwreiddiol.
Yng Nghaerdydd mae 25 cynllun gwerth £132m wedi cael eu cymeradwyo ac fe fydd 14 ysgol yn cael eu hailadeiladu neu eu hadfer yn Abertawe.
£160m
Rhondda Cynon Taf fydd yn derbyn y cyfraniad mwyaf - gwerth £160m - i adeiladu ysgolion erbyn 2020.
Yng Ngwynedd bydd pecyn buddsoddiad o £36 miliwn yn talu am gampws dysgu gydol oes newydd yn Y Bala, gwelliannau i ysgolion yn ardal Dolgellau, ysgol arbennig newydd sbon yn lle Ysgol Hafod Lon ac adeiladu dwy ysgol gynradd newydd yn ardal Arfon.
Dywedodd Arweinydd Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Liz Saville Roberts: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn newyddion da i blant yng Ngwynedd.
"Ein blaenoriaeth o'r cychwyn fu cydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer newidiadau mawr yn nalgylch y Berwyn ac ysgol arbennig newydd yn lle Ysgol Hafod Lon.
"Fodd bynnag, mae'n braf gweld inni lwyddo a'n bod hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer Ysgol Y Groeslon, Ysgol Glan Cegin ym Mangor a gwelliannau yn nalgylch y Gader."
Roedd cais Gwynedd hefyd yn cynnwys cynnig am gyllid ar gyfer ardaloedd Eifionydd, Moelwyn, Botwnnog a Dyffryn Ogwen i hwyluso ad-drefnu.
"Tra na fu'r rhan hon o'r cais yn llwyddiannus y tro hwn, mae'r rownd hon o gynigion wedi ein galluogi i ddatgan ein bwriadau ynghylch ein strategaeth ad-drefnu.
"Ein bwriad yw cynnal trafodaethau pellach i geisio sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ardaloedd hyn."
'Anodd'
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: "Ar y cyfan, bydd y cyhoeddiad yn sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i ddarparu'r amgylchedd dysgu gorau i'n disgyblion.
"Mae sicrhau buddsoddiad cyfalaf yn y cyfnod economaidd anodd hwn yn hanfodol, nid yn unig i sicrhau deilliannau addysg gwell ond hefyd er mwyn parhau i gefnogi ein diwydiant adeiladu a thwf ein heconomi.
"Byddwn ni nawr yn gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol i symud y rhaglen hon yn ei blaen a gwireddu ton gyntaf y rhaglen fuddsoddi hirdymor."
Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, llefarydd addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, "Mae'r rhaglen yn fuddsoddiad ar y cyd ar ran Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ...
"Bydd yn galluogi awdurdodau i greu amgylcheddau dysgu modern sy'n hanfodol i godi safonau a gwella deilliannau i blant a phobl ifanc."
Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns: "Mae'n drueni bod gweinidogion wedi gwastraffu cymaint pan oedd y sefyllfa economaidd yn fwy ffafriol.
"Erbyn hyn, dydyn nhw ddim wedi manteisio ar ffynonellau ariannu eraill er mwyn sicrhau y bydd adeiladau ein hysgolion yn addas ar gyfer y ganrif hon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011