Mudiad: Ysgolion angen 'mwy o arian'
- Cyhoeddwyd
Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i dynnu sylw at anghenion unigryw addysg cyfrwng Cymraeg o fewn rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Daw hynny'n sgil y ffaith fod awdurdodau lleol bellach wedi diwygio blaenoriaethau eu ceisiadau gwreiddiol am gyllid cyfalaf ac wedi ail gyflwyno'r ceisiadau hynny i sylw swyddogion y llywodraeth.
Prif amcan y rhaglen dan sylw yw sicrhau fod ysgolion Cymru'n addas at ddibenion yr 21ain ganrif er mwyn arwain at well deilliannau addysgol a'r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau.
Mae'r rhaglen hefyd yn rhoi pwyslais blaenllaw ar leihau llefydd gweigion mewn ysgolion - agwedd sy'n cael ei ystyried yn faen prawf canolog o safbwynt proses llunio'r ceisiadau a'r broses o'u gwerthuso.
'Lleoedd gwag'
Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad: "Tra'n deall yr angen cyffredinol i fynd i'r afael â lleihau lleoedd gwag, mae'n rhaid tynnu sylw at y ffaith nad yw'r gofyniad hwn yn uniongyrchol berthnasol i sefyllfa'r ysgolion cyfrwng Cymraeg.
"Drwyddi draw, mae'n amlwg bod angen arian ychwanegol ar ysgolion Cymraeg sy'n gorlenwi, er mwyn ehangu'r ysgolion hynny neu i fynd ati i adeiladu ysgolion newydd.
"O'r herwydd credwn na all llefydd gwag mewn ysgolion eraill fod yn faen prawf o safbwynt twf addysg Gymraeg.
"Pryderwn y caiff ei gam briodoli mewn achosion ble mae angen ymateb yn rhagweithiol i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, a lle mae sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru'n hanfodol er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol ddiwallu'r galw hwnnw.
"Pryderwn felly fod siawns i'r rhaglen osod y sector cyfrwng Cymraeg dan anfantais o'r cychwyn cyntaf os mai lleihau llefydd gwag yw'r prif faen prawf tra'n sgorio ceisiadau."
'Cyllid cyfatebol'
"Heb gefnogaeth ariannol bydd yn anodd iawn, neu hyd yn oed yn amhosib mewn ambell achos, i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd statudol ac i wireddu amcanion Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y llywodraeth.
"Yn wir, mae rhai awdurdodau wedi cyrraedd pwynt argyfwng ble mae cael sicrwydd o gyllid cyfatebol gan y llywodraeth yn angenrheidiol er mwyn eu caniatáu i ddarparu llefydd cyfrwng Cymraeg digonol yn y dyfodol agos.
"Ein pryder pennaf felly yw y gallai sefyllfa amlygu'i hun ble bydd un o bolisïau Llywodraeth Cymru yn tanseilio amcanion un arall."
Mae'r mudiad wedi gofyn i'r Gweinidog am eglurhad ar statws addysg cyfrwng Cymraeg o safbwynt meini prawf dyrannu cyllid i'r awdurdodau unigol o fewn y rhaglen, pa feini prawf penodol sydd mewn lle ar gyfer ehangu addysg Gymraeg ynghyd â natur y drafodaeth rhwng Uned Datblygu'r Iaith Gymraeg o fewn y llywodraeth a'r Uned sy'n arwain ar y Rhaglen Ysgolion 21ain ganrif wrth bwyso a mesur y cynigion.
Dywedodd y llefarydd: "Credwn fod hynny'n allweddol, nid yn unig er mwyn cydgordio amcanion yr adrannau hynny, ond er mwyn gwireddu dyheadau ehangach Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynyddu'r cyfleoedd i dderbyn addysg Gymraeg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae darpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i ni.
"Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn asesu rhaglenni buddsoddiad amlinellol awdurdodau lleol a bydd yn cefnogi eu rhaglen ysgolion 21ain Ganrif.
"Bydd y Gweinidog dros Addysg yn gwneud datganiad am y rhaglennu llwyddiannus yn fuan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2011