Ysgol gynradd o dan fygythiad

  • Cyhoeddwyd
Plentyn mewn dosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd swyddogion y cyngor sir yn cyfarfod rhieni a llywodraethwyr yn gynnar yn y flwyddyn newydd

Mae ysgol gynradd yng Ngheredigion o dan fygythiad yn dilyn gostyngiad niferoedd disgyblion.

Mae nifer y plant sy'n mynychu Ysgol Dihewyd, ger Felinfach, wedi syrthio islaw rhif trothwy'r cyngor o 20 disgybl.

Hysbyswyd llywodraethwyr yr ysgol y byddai'r ysgol yn cau yn ystod cyfarfod â swyddogion y cyngor sir nos Fawrth.

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dihewyd, Siân Harrand, ei bod yn siomedig ond bod y penderfyniad terfynol heb gael ei wneud eto.

"Fe wnaethon ni gyfarfod ac mae'r awdurdod lleol yn argymell cau'r ysgol," meddai.

"Bydd y rhieni a'r llywodraethwyr yn cynnal cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen.

"Rwy'n siomedig ond roeddwn i'n disgwyl hyn am fod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail niferoedd disgyblion."

Rhybudd

Yn nhymor yr haf 2011 cyfarfu'r Cyfarwyddwr Addysg â Llywodraethwyr Dihewyd i'w rhybuddio bod y niferoedd yn debygol o fod dan rif drothwy'r cyngor (16) ar gyfer yr ysgol gynradd ym mis Medi, ac os felly, byddai'r ysgol yn cael ei hadolygu.

Ar ddechrau tymor yr Hydref 2011 y nifer o blant yn Ysgol Dihewyd oedd 15.

Yn wyneb y bygythiad i'r ysgol ffurfiodd rhieni a phentrefwyr Grŵp Ymgyrchu mewn cyfarfod cyhoeddus ar Hydref 4 2011.

Cyfarfu Pwyllgor Adolygu Ysgolion y cyngor ar Dachwedd 22 i drafod dyfodol Ysgol Dihewyd.

Yn sgil y cyfarfod hwn fe drefnwyd cyfarfod arall ar gyfer Rhagfyr 6 i hysbysu Llywodraethwyr yr ysgol am benderfyniad y pwyllgor.

Asesu dyfodol

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion fod pwyllgor adolygu'r awdurdod lleol wedi asesu dyfodol yr ysgol yn ddiweddar.

Ychwanegodd fod cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Dihewyd wedi'i hysbysu am gasgliadau'r pwyllgor mewn cyfarfod a gafodd ei gynnal ar Ragfyr 6.

"Bydd argymhellion y pwyllgor yn cael eu rhannu mewn cyfarfod cyhoeddus yn gynnar ym mis Ionawr 2012," meddai.

Ym mis Hydref cymerodd y cyngor sir y camau cyntaf i greu Ysgol Ardal newydd yng Ngheredigion.

Mae'r cyngor wedi datgan bod creu Ysgol Ardal yng Nghwrtnewydd, ger Llanbed yn un opsiwn wrth iddyn nhw drafod dyfodol ysgolion Cwrtnewydd, Llanwenog a Llanwnnen.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol