Oedi ar wahardd ysmygu mewn ceir
- Cyhoeddwyd
Ni fydd deddfwriaeth i wahardd ysmygu mewn ceir sy'n cario plant yn cael ei chyflwyno yn nhymor presennol y Cynulliad, medd Llywodraeth Cymru.
Ond mae'r Gweinidog iechyd, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau y bydd cynllun yn cael ei weithredu i geisio lleihau'r niwed a ddaw drwy ysmygu.
Mae'n cynnwys gwahardd ysmygu ar dir o eiddo'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac mewn meysydd chwarae plant.
Ond gwrthododd alwad gan Blaid Cymru i gyflwyno rheolau yn gynt i wahardd ysmygu mewn ceir sy'n cario plant.
Ymgyrch
Dywedodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch addysgu tair blynedd am effeithiau mwg ail-law mewn ceir.
Dywedodd Ms Griffiths y byddai'r llywodraeth yn "ystyried cyflwyno deddfwriaeth" petai tystiolaeth yn dangos nad yw'r ymgyrch yn llwyddo i leihau'r achosion o bobl yn anadlu mwg ail-law yn sylweddol.
Ond dywedodd David Bowden, o'r mudiad hawliau sifil The Institute of Ideas, bod y mwyafrif bellach yn ymwybodol o beryglon ysmygu.
Doedd hi ddim yn iawn i lywodraethau wahardd ysmygu ar feysydd chwarae ond nid mewn ceir.
Wrth siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd: "Naill ai rydym yn rhoi'r dewis i unigolion i gymryd cyfrifoldeb moesol i gael arferion nad yw'r llywodraeth efallai'n eu cymeradwyo, neu dydyn ni ddim."
Dywedodd yr Athro Laurence Moore o Brifysgol Caerdydd: "Os all y llywodraeth gymryd camau cadarn, fe all fod o gymorth wrth annog pobl i beidio dechrau ysmygu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011