Sylwadau Raymond Verheijen yn synnu Iwan Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae sylwadau hyfforddwr cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru ynglŷn ag arwain y tîm cenedlaethol wedi marwolaeth Gary Speed yn "gywilyddus" yn ôl un o gyn-ymosodwyr Cymru.
Mae Raymond Verheijen wedi dweud ar wefan Twitter ddydd Sul ei fod yn gobeithio y bydd tîm rheoli 'r garfan genedlaethol yn cael ei benderfynu gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru ddydd Llun.
Ond dywedodd Iwan Roberts ei fod wedi ei synnu gan sylw'r gŵr o'r Iseldiroedd bythefnos yn unig ers marwolaeth Speed.
Does 'na ddim rheolwr ar y tîm cenedlaethol ers marwolaeth Speed ar Dachwedd 27.
Mae'r Gymdeithas yn dweud nad yw mater y rheolwr cenedlaethol ar yr agenda ddydd Llun.
"Dwi'n meddwl bo hi'n gywilyddus be mae o wedi ei ddweud ar Twitter," meddai Roberts.
"I fod yn gyhoeddus a bod pobl yn gweld be o'n feddwl.
"Rydan ni'n gwybod bod rhaid symud ymlaen, ond i ddweud be mae o wedi ei ddweud mai dymuniad Gary Speed oedd iddo fo gymryd y tîm drosodd, dwi'n meddwl bo hyn yn gywilyddus ac yn ansensitif."
'Llond bol'
Ond dywedodd nad dyma'r tro cyntaf i Verheijen wneud sylwadau dadleuol ar Twitter.
"Dwi'n meddwl bod lot o bobl wedi cael llond bol ar ei sylwadau," ychwanegodd Roberts ar BBC Radio Cymru.
"Mae ganddo swydd bwysig iawn efo Cymru.
"Doeddwn i ddim yn hapus ei fod o yn dweud be mae o'n ei ddweud ar Twitter.
"Dwi'n meddwl y bydd hi'n anodd iawn iawn i Gymdeithas Bêl-droed gadw Raymond yn ei swydd."
Ond mae Verheijen wedi dweud wrth BBC Cymru ddydd Llun na wnaeth o ddweud ei fod o eisiau swydd rheolwr Cymru.
Doedd o ddim am wneud sylw pellach.
Mae Verheijen wedi cynorthwyo i hyfforddi Yr Iseldiroedd, Rwsia a De Corea yn y gorffennol.
Parhau a'r dasg
Daeth yn rhan o dîm hyfforddi Cymru pan gafodd Speed ei benodi ym mis Rhagfyr 2010., dolen allanol
Roedd y gŵr 40 oed yn rhan o dîm hyfforddi Speed wnaeth sicrhau buddugoliaethau diweddar Cymru.
Wedi cychwyn anodd fe wnaeth Speed ennill pedair o'r pum gêm olaf yng ngofal Cymru.
Dywedodd Verheijen cyn marwolaeth Speed fod ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd 2011 a'i fod yn ystyried ei ddyfodol.
Yn ôl ei sylw ar Twitter ddydd Sul dywedodd Verheijen ei fod yn credu y dylai tîm hyfforddi Speed gael y cyfle i barhau gyda'i waith gyda'r Gymdeithas.
"Gobeithio y bydd y bwrdd yn parchu dymuniad Gary fel y gall Osian Roberts (cyd-gynorthwydd) a finnau arwain y tîm i Frasil."
Ychwanegodd nad oes angen rheolwr newydd â syniadau newydd.
"Mae ein llwyddiant wedi ei selio ar strwythur clir Gary.
"Mae pawb yn gwybod be i'w wneud ar gyfer ymgyrch Brasil 2014."
Ond dywedodd Roberts, a oedd yng ngharfan Cymru gyda Speed nad yw'r sylwadau yn rhai amserol.
"Dwi'n meddwl fod ei amseru yn ofnadwy o ansensitif i feddwl mai pythefnos yn ôl wnaethon ni golli Gary ac mai dydd Gwener oedd ei angladd," meddai.
"Mae'n beth ofnadwy."
Ychwanegodd nad lle Twitter oedd denu CV neb.
Fe fydd gêm gyntaf Cymru yn y gemau rhagbrofol gartref yn erbyn Gwlad Belg ar Fedi 7, 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2011