Gofal: 'Angen ystyried ansawdd'

  • Cyhoeddwyd
Cartrefi gofalFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Yn y sir mae tua 30 o gartrefi gofal preifat

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn, Ruth Marks, wedi dweud bod angen ystyried ansawdd nid dim ond cost wrth benderfynu ariannu cartrefi gofal.

Dyfarnodd yr Uchel Lys ddydd Gwener y dylai Cyngor Sir Penfro ailystyried unwaith eto faint y maen nhw'n talu cartrefi gofal preifat am lefydd unigol i gleifion.

Roedd saith o gwmnïau wedi ennill achos yn erbyn y cyngor wedi i'r cyngor golli adolygiad barnwrol yn Rhagfyr yn erbyn pedwar cwmni.

Dywedodd y comisiynydd fod ansicrwydd ariannol ac emosiynol yn effeithio'n fawr ar bobl oedrannus.

"Mewn cartrefi gofal mae pobol oedrannus yn dweud wrthyf eu bod yn poeni am y dyfodol a'u bod angen gwybodaeth a dewis.

"Felly yn y ddadl hon mae'n hollbwysig ein bod ni'n clywed eu lleisiau hwy ac eraill sy'n ymwneud â'r mater."

Yn y bôn, meddai, y cwestiwn oedd faint yr oedd cymdeithas yn parchu'r hen.

"Ar hyn o bryd yr ateb yw 'dim digon'."

Penderfynodd yr Uchel Lys nad oedd y cyngor wedi dilyn y patrwm ariannu gafodd ei gytuno ac nad oedd wedi ystyried yn ddigonol nifer o ffactorau wrth gyrraedd y taliad terfynol.

'Ffynhonell gofid'

Dywedodd y cyngor eu bod yn siomedig iawn.

"Bydd aelodau'r cyngor yn gorfod ystyried y mater yn y Flwyddyn Newydd.

"A bydd y sefyllfa y mae'r cyngor ynddi yn ffynhonell gofid i lywodraeth leol. Drwy'r Deyrnas Gyfunol mae'r gwasanaeth gofal mewn argyfwng."

Yng Nghymru, meddai, taliadau Cyngor Sir Benfro i gartrefi gofal oedd ymhlith y rhai uchaf.

"Serch hynny, rydyn ni'n croesawu'r ffaith na fydd taliadau olgyfeiriol neu fe fydden ni wedi gorfod talu tua £6 miliwn."

Yn y sir mae tua 30 o gartrefi gofal preifat.

Fframwaith

Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol yng Nghymru: "Rydyn ni'n siomedig a bydd angen ystyried manylion ac oblygiadau'r dyfarniad."

Byddai'r mudiad, meddai, yn ceisio trafod â Llywodraeth Cymru, Fforwm Gofal Cymru ac eraill er mwyn edrych yn fanwl ar fframwaith darpariaeth gofal.

"Er lles pawb mae angen ateb ariannol cynaliadwy yn wyneb y cyni economaidd presennol a demograffeg poblogaeth sy'n heneiddio."