Rhanbarthau rygbi'n cyfyngu ar gyflogau
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar rhanbarth rygbi Cymru yn cyhoeddi cyfyngiad ar gyflogau chwaraewyr yng nghanol pryderon y bydd chwaraewyr yn gadael i chwarae yn Ffrainc.
Mae Rhanbarthau Rygbi Cymru, sy'n cynrychioli'r pedwar rhanbarth, wedi ymgynghori gydag Undeb Rygbi Cymru am y newid.
Mae'r ddau brop Gethin Jenkins ac Adam Jones ymhlith y rhai sydd wedi cael eu cysylltu gyda symudiad i Ffrainc i ddilyn James Hook, Lee Byrne, Mike Phillips a Luke Charteris.
Fe fydd cyfyngiad o £3.5 miliwn y tymor.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi creosawu'r cyhoeddiad.
Arian ychwanegol
Mae ffigyrau amlwg gyda'r rhanbarthau unigol - Y Gleision, Y Dreigiau, Y Gweilch a'r Scarlets - wedi mynegi barn ar y mater.
Maen nhw wedi galw am arian ychwanegol gan Undeb Rygbi Cymru er mwyn perswadio'r chwaraewyr gorau i beidio symud i glybiau yn Ffrainc, Lloegr neu wledydd eraill.
Mae sibrydion fod Aled Brew, asgellwr y Dreigiau, yn darged i glwb Perpignan, ac mae'r Scarlets yn poeni y bydd eu sêr ifanc Rhys Priestland, George North, Jonathan Davies a Scott Williams yn cael eu denu gan glybiau tramor.
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi rhybuddio chwaraewyr y gallai eu gobeithion rhyngwladol ddioddef os fyddan nhw'n chwarae i glybiau y tu allan i Gymru.
Fe wnaeth annog unrhyw chwaraewyr sy'n symud i sicrhau bod eu cytundebau yn caniatáu iddyn nhw gyflawni eu holl ddyletswyddau chwarae a hyfforddi gyda Chymru.
Bythefnos cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, bydd Cymru'n teithio i Wlad Pwyl am wersyll hyfforddi, ac mae Gatland wedi dweud y gallai chwaraewyr sydd ddim ar gael i fynd yno gael eu diystyru ar gyfer y gystadleuaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011