£5.5m ar gyfer iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Bachgen o dan bwysauFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

'Un o bob pedwar yn diodde afiechyd meddwl ar ryw adeg'

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfanswm o £5.5 miliwn ar gael er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Bydd £3.5 miliwn ar gyfer cefnogaeth ar lefel leol, darparu gwell gwasanaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol fel meddygfeydd.

A bydd y gweddill, £2 miliwn, yn cefnogi gwasanaeth eiriolaeth annibynnol estynedig sy'n helpu cleifion i ddeall ac arfer eu hawliau cyfreithiol.

Dywedodd Lesley Griffiths y byddai'r arian yn helpu i weithredu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), ddaeth i rym yn 2010, sy'n sicrhau bod gwasanaethau ar sail anghenion cleifion.

Bydd pob claf o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd hefyd yn derbyn cynllun gofal a thriniaeth unigol a ddatblygwyd ar y cyd â hwy a'u cynhalwyr.

'Yn nes'

Bydd gan gleifion sy'n cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd lwybr uniongyrchol yn ôl at wasanaethau os byddan nhw'n teimlo bod eu hiechyd meddwl yn dirywio ar ôl eu rhyddhau.

"Mae un o bob pedwar ohonon ni yn diodde' afiechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau a bydd y cyllid yn caniatáu gwell cefnogaeth i bobl yn nes at eu cartrefi," meddai'r Gweinidog.

"Bydd yr arian ychwanegol yn golygu y bydd gwasanaethau iechyd meddwl ar gael o fewn lleoliadau gofal sylfaenol ac yn cael eu darparu ochr yn ochr â'r gwasanaethau iechyd cyffredinol y mae meddygon teulu yn eu cynnig."

Dywedodd y byddai gwasanaethau'n fwy personol, yn canolbwyntio ar y model adferiad ar gyfer gofal a thriniaeth, ac yn cael eu teilwra ar gyfer grwpiau penodol.

"Bydd unigolion hefyd yn gallu cael eu hasesu yn brydlon lle maen nhw wedi'u rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ond yn teimlo y byddai'n llesol iddyn nhw gael triniaeth bellach wedi hynny."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol