Thatcher 'yn ofni hybu cenedlaetholdeb'
- Cyhoeddwyd
Roedd pryderon am hybu cenedlaetholdeb yn ystyriaeth cyn i Margaret Thatcher wneud tro pedol a chymeradwyo sefydlu S4C, yn ôl papurau Cabinet 1981.
Roedd bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio i farwolaeth ym 1980 wedi cyfrannu at benderfyniad y llywodraeth i sefydlu'r sianel deledu.
Mae papurau'r Cabinet yn 1981, sy'n cael eu rhyddhau am y tro cyntaf o dan y rheol 30 mlynedd, yn awgrymu'n gryf fod y Prif Weinidog wedi ei darbwyllo na ddylid darlledu rhaglenni Cymraeg ar ddwy sianel.
Roedd cyfeiriad at bryderon y Cabinet hefyd ym mhapurau'r Cabinet gafodd eu rhyddhau yn 2010 o dan y rheol 30 mlynedd.
'Apêl leiafrifol'
Yn y pen draw, fe benderfynwyd darlledu rhaglenni Cymraeg ar un sianel ac fe gafodd S4C ei lansio ym mis Tachwedd 1982.
Dywedodd Mark Dunton, arbenigwr cofnodion yn yr Archif Brydeinig: "Roedd hyn yn dipyn o dro pedol i lywodraeth Margareth Thatcher.
"Mae'r manylion yn dangos bod Mrs Thatcher ar un adeg yn poeni. Ei chred hi oedd: 'Os ildiwn ni ar y mater hwn (y sianel) a fydd rhai eraill yn ein herio ni? A fyddwn ni yn hybu cenedlaetholdeb yng Nghymtru?'
"Mae'r ffeil a gafodd ei rhyddhau heddiw yn dangos yn union pryd y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cartref, Willie Whitelaw, newid safbwynt y llywodraeth.
"Bu'n rhaid iddo wneud hyn wedi gweithred Gwynfor Evans a'r ymgyrch o blaid darlledu yn yr iaith Gymraeg."
Mae'r ffeil yn sôn am drefniadau ariannol creu S4C, gan gynnwys pryderon na fyddai hysbysebwyr yn buddsoddi mewn sianel "ag apêl leiafrifol".
Yn ogystal mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth ynghylch bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio i farwolaeth.
'Teimladau cryf'
Roedd wedi cyhoeddi y byddai'n dechrau ymprydio ym mis Medi 1980 os nad oedd y llywodraeth yn cadw at addewid maniffesto Etholiad Cyffredinol 1979 i sefydlu sianel deledu Cymraeg.
Dywedodd Mr Dunton: "Mae'r ffeil yn dangos bod Willie Whitelaw ac Ysgrifennydd Cymru, Nicholas Edwards, wedi eu syfrdanu gan deimladau cryf pobl ynghylch sianel Gymraeg.
"Achosodd gweithred Gwynfor Evans i Whitelaw ddweud: 'Rhaid inni newid ein safbwynt'.
"Mae'r ffeil hefyd yn dangos bod Archesgob Cymru wedi ymyrryd ac mae adroddiadau o'r cyfarfod hwn yn y ffeil."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2011