Gwahardd ysmygu tu allan i ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor WrecsamFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam ymhlith y rhai lle bydd larymau'n cael eu defnyddio

Ar 4 Ionawr bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lansio ei bolisi di-fwg.

Mae'r polisi yn anelu at greu amgylchedd di-fwg i bawb sydd yn ymweld â'u hadeiladau yng ngogledd Cymru.

Bydd arwyddion newydd yn cael eu codi ar dir y bwrdd iechyd i atgoffa staff, ymwelwyr a chleifion nad ydynt yn cael ysmygu yno.

Hefyd bydd larymau uwchseinydd yn cael eu gosod wrth brif fynedfeydd ysbytai.

Bydd y larymau yn ymateb pan fydd rhywun yn ysmygu yn yr ardal honno.

'Argraff wael iawn'

Dywedodd yr Athro Matthew Makin, pennaeth staff ar gyfer y Grŵp Rhaglen Glinigol Canser a Meddygaeth Liniarol:

"Byddwn yn gadael i ymwelwyr sydd efallai ddim yn ymwybodol o'n polisi ac sydd yn parhau i ysmygu gwybod yn gwrtais, ond yn gadarn, eu bod yn mynd yn groes i'r polisi newydd.

"Byddwn yn gofyn iddynt roi'r gorau i ysmygu neu symud oddi ar dir y bwrdd iechyd.

"Mae pobl yn ysmygu wrth fynedfeydd ein hadeiladau neu ar ein tir yn rhoi argraff wael iawn ac yn golygu bod y rhai sydd yn mynd i mewn neu'n gadael ein hadeiladau yn gorfod mynd trwy fwg tobaco," meddai Athro Makin.

Mae trin salwch sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn costi tua £1 miliwn y diwrnod i'r GIG yng Nghymru.

Bydd lansiad y polisi di-fwg yn cael ei gynnal am 2.30pm ar ddydd Mercher 4 Ionawr yn y theatr ddarlithio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Bydd y lansiad yn cynnwys arddangosiad o'r larwm fydd yn seinio pan fydd pobl yn dechrau ysmygu ger mynedfa ysbyty.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol