Taliadau: 'Trethdalwyr yn dychryn'

  • Cyhoeddwyd
Heddlu De Cymru yn bresennol mewn gêm bêl-droed yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cynghrair y Trethdalwyr yn derbyn bod goramser 'yn angenrheidiol i ymdopi â digwyddiadau mawr'

Mae taliadau goramser Heddlu Gogledd Cymru wedi codi o £2.7m yn 2010 i £3.6m yn 2011 er gwaetha'r arbedion cyffredinol y mae disgwyl i'r holl heddluoedd eu cyflawni.

Fe gafodd 1,732 o unigolion daliadau goramser yn Heddlu'r Gogledd yn 2010, ac 1,726 yn 2011. Y tâl mwyaf ar slip talu mewn mis oedd £3,591 yn 2010 a £5,314 yn 2011.

Tra dywedodd yr heddlu eu bod yn "defnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosib", mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi honni y byddai trethdalwyr yn dychryn oherwydd maint y cynnydd.

Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Fe gododd cyfanswm taliadau Heddlu'r De, o £6,041,604 yn 2010 i £6,758,056 hyd at Tachwedd 2011.

£20,736

Y taliad goramser mwyaf i unigolyn yn Heddlu'r De yn 2010 oedd £20,736 ac £14,340 yn 2011.

Cyfanswm y taliadau goramser yn Heddlu Dyfed-Powys oedd £2,178,082 yn 2010 ac £2,154,118 yn 2011 (Ionawr-Tachwedd).

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaed cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i'r pedwar llu

Fe gafodd 1,245 o unigolion daliadau goramser yn Heddlu Dyfed-Powys yn 2010 ac 1,216 yn 2011.

Nid oedd Adran Gyllid Heddlu Dyfed-Powys yn medru darparu'r wybodaeth am y swm mwyaf a dalwyd i unigolyn.

Yn Heddlu Gwent yn y flwyddyn ariannol 2010-11, cyfanswm y taliadau oedd £2,059,192 a 1,910 oedd nifer y staff dderbyniodd daliadau goramser. Y taliad mwyaf dros y flwyddyn i unigolyn yn 2010-11 oedd £20,082.

'Dychryn'

Dywedodd Jonathan Isaby, Cyfarwyddwr Gwleidyddol Cynghrair y Trethdalwyr: "Fe fydd trethdalwyr wedi eu dychryn bod taliadau goramser yn Heddlu'r Gogledd wedi cynyddu 33% mewn blwyddyn a bod rhai swyddogion yr heddlu yng Nghymru yn cael mwy mewn taliadau goramser na'r cyflog y gall llawer o bobl ei ennill mewn blwyddyn.

"Tra bod goramser yn angenrheidiol i ymdopi â digwyddiadau mawr a phrinder annisgwyl o staff, y mae'n ddrud ac fe ddylai rheolwyr yr heddluoedd leihau'r defnydd o daliadau goramser".

Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o ddim ond 12 heddlu yng Nghymru a Lloegr i gael y radd ucha, pedwar, am y defnydd o'i adnoddau yn yr Asesiad Defnydd yr Heddlu o Adnoddau.

"Swyddfa Archwilio Cymru sy'n cynnal asesiad y Comisiwn Archwilio ac mae'n broses heriol sy'n mesur pa mor economaidd, effeithiol, ac effeithlon y mae'r heddluoedd wedi defnyddio eu hadnoddau.

'Ffordd orau'

"Mae'r ffaith ein bod wedi cyrraedd y radd hon ddwy flynedd yn olynol yn dangos ein bod yn parhau i ddefnyddio ein hadnoddau yn y ffordd orau bosib.

"Ni thelir goramser i unrhyw un sy'n uwch na rhingyll.

"Fodd bynnag, mae Arolygyddion Dros Dro yn gymwys i wneud cais am oramser gan nad ydyn nhw eto wedi cael dyrchafiad ac felly maen nhw'n parhau i fod yn rhingyll.

"Mae'n bosib i swyddogion gymryd amser i ffwrdd yn hytrach na chael eu talu am y goramser".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol