Ffrae Olympaidd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae gwaharddiad ar farchnata yn ystod cystadlaethau pêl-droed Olympaidd wedi cael ei feirniadu gan nifer o Aelodau Cynulliad.
Bydd ardal wahardd o 500m o amgylch Stadiwm y Mileniwm am bron bythefnos fydd yn atal hysbysebu answyddogol.
Honnir y bydd busnesau o Gymru yn cael eu tagu gan y penderfyniad.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod Caerdydd yn rhwym i reolau Olympaidd, a bod rhaid gwarchod noddwyr swyddogol.
Nod y rheolau yw rhwystro marchnata a hysbysebu gan gwmnïau corfforaethol sydd ddim yn noddwyr yn ystod cystadlaethau pêl-droed Gemau Llundain 2012 yng Nghaerdydd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas, fod yr ardal wahardd yn enghraifft o "gymryd gordd i dorri cneuen" ac fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru o fethu cyfle i hybu busnes.
Dywedodd: "Mae'n siom enfawr mai un o'r deddfau cyntaf yr ydym yn ei gwneud yma ers y refferendwm yw un i warchod buddiannau corfforaethol Coca Cola a McDonald's, ac sy'n gwneud dim i gynnig cyfleoedd i fusnesau Cymru wrth farchnata digwyddiadau Olympaidd yng Nghymru.
"Ymgais yw hwn i warchod pocedi'r cryfaf a'r mwyaf ar draul y gwanaf."
Gwarchod noddwyr
Ond fe wnaeth y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths amddiffyn y rheolau. Dywedodd eu bod yn hanfodol er mwyn gwarchod noddwyr, ond hefyd eu bod yn amod o Gaerdydd yn cael cynnal cystadlaethau.
"Rwy'n ystyried y bydd y rheolau yn cymryd camau cymesur i gyrraedd y nod, ac yn cadw cydbwysedd rhwng y gwaharddiadau angenrheidiol gydag eithriadau digonol i warchod diddordebau trigolion a busnesau sydd o fewn yr ardal wahardd - y nod fydd sicrhau cyn belled â bod hynny'n bosib y bydd busnes fel arfer yno," meddai.
Ond roedd Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol am gael sicrwydd y byddai Heddlu De Cymru yn gweithredu mewn dull "ysgafn" cyn y byddai ei phlaid yn cefnogi'r rheolau.
Mae'r rheolau Olympaidd yn caniatáu i'r Awdurdod Darparu Olympaidd a Phwyllgor Trefnu Lleol Gemau Llundain benderfynu ar fasnachu a hysbysebu o fewn ardal ddigwyddiadau dynodedig.
Mae rheolau tebyg yn weithredol ymhob ardal cyn cynnal digwyddiadau Olympaidd.
"Ymgais yw hwn i warchod pocedi'r cryfaf a'r mwyaf ar draul y gwanaf."
Diddordebau

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2012