Gweinyddwyr yn chwilio am brynwr i Peacocks
- Cyhoeddwyd
Mae gweinyddwyr Peacocks, KPMG, wedi dweud eu bod yn dal i chwilio am brynwr.
Cafodd 249 o weithwyr wybod ddydd Iau eu bod wedi colli eu swyddi ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd.
Mae wedi dod i'r amlwg nad oes modd i siopwyr ddefnyddio talebau yn siopau Peacocks na dychwelyd dillad gafodd eu prynu cyn i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dywedodd y gweinyddwyr y byddai 266 o weithwyr yn dal i weithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd er mwyn parhau i redeg siopau'r cwmni.
Roedd y cwmni'n cyflogi dros 400 o weithwyr yng Nghaerdydd a thros 9,000 mewn safleoedd eraill ar draws y Deyrnas Unedig.
'Ffaelu'
Dywedodd un cwsmer, Emma Williams, ei bod yn "siomedig" na allai ddefnyddio taleb a gafodd fel anrheg Nadolig.
"Fe es i'r siop yn Abertawe a cheisio ei defnyddio ond o'n i'n ffaelu.
"Maen nhw wedi dweud eu bod yn mynd i gysylltu gyda'r gweinyddwyr a gweld a allen nhw wneud rhywbeth."
Mae Alistair Wardell, arbenigwr methdalu gyda chwmni Grant Thornton, wedi dweud: "Fe fydd y gweinyddwyr yn ceisio cadw'r siopau ar agor mor hir â phosib.
"O werthu'r cwmni fel busnes sy'n dal i fasnachu, mae'n mynd i greu mwy o arian i'r credydwyr a chadw cymaint o swyddi â phosib.
"Oherwydd hyn mae angen gwneud penderfyniadau anodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012