Cannoedd mewn rali yn erbyn cau ward yn Ysbyty Bryn Beryl

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Bryn BerylFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau yn yr ysbyty yn rhan o gynlluniau ehangach y bwrdd iechyd

Roedd dros 400 o bobl mewn rali ynglŷn â dyfodol Ysbyty Bryn Beryl ym Mhwllheli ddydd Sadwrn.

Dechreuodd y rali ym maes parcio'r Maes, Pwllheli, am 1pm.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y gallai ward lle oedd 15 gwely'n cau.

Mae'r newidiadau yn rhan o gynllun ehangach y bwrdd iechyd sydd am newid gwasanaethau yn rhai o'r ysbytai cymunedol a sicrhau y bydd mwy o welyau yn yr ysbytai mwya.

Dim ffydd

Cyn y rali dywedodd y Cynghorydd Sir Peter Read nad oedd ganddo ffydd yn addewidion y bwrdd iechyd.

"Caeodd y bwrdd iechyd ward arall yn yr ysbyty 18 mis yn ôl, gan ddweud y byddai'n ail agor ymhen tri mis ond mae'r ward honno'n dal ar gau.

"Mae hyn yn golygu bod pobl yn gorfod teithio i Langefni i ymweld â chleifion o'r ardal hon.

"Rydyn ni'n cynnal y brotest am ein bod ni'n ofni y bydd yr ysbyty yn cael ei gau yn y tymor hir."

'Tawelu meddwl'

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Rhaid i ni dawelu meddwl y cyhoedd fod Ysbyty Bryn Beryl yn dal i fod yn rhan allweddol o'n cynlluniau i ddarparu gofal iechyd yn ardal Dwyfor ac nad oes unrhyw gynlluniau i gau'r ysbyty.

"Fodd bynnag roedd yn briodol ein bod yn edrych yn ofalus ar sut yr ydym yn gwneud y defnydd gorau o'n staff a'u sgiliau yn ystod y gaeaf sy'n gallu bod yn gyfnod anodd.

"Rydym yn gwybod o brofiad fod y nifer o gleifion sydd angen gofal brys yn debygol o godi ar adeg pan fo lefelau salwch ymhlith ein staff yn debygol o godi."

Roedd y newidiadau dros dro i wasanaethau, meddai, er mwyn sicrhau mai'r rhain oedd y mwyaf addas ar gyfer diwallu anghenion disgwyliedig cleifion.

"... penderfynwyd lleihau oriau agor yr Uned Mân Anafiadau dros dro oherwydd bod ar gyfartaledd lai nag un claf y dydd yn dod yno ar ôl 5pm dros gyfnod y gaeaf," meddai.

'Gofal lliniarol'

"Tra bod lefelau'r defnydd o welyau yn amrywio, rydym yn cadw digon o welyau'n agored i dderbyn y mwyafrif o gleifion o'r ardal y gellir gofalu amdanyn nhw'n ddiogel mewn ysbyty cymunedol.

Dywedodd eu bod wedi newid eu cynlluniau cyntaf rhag of y bydden nhw'n tarfu ar ofal lliniarol.

Fe fyddai'r gwelyau yn ailagor ym mis Ebrill, meddai, ac oriau agor hwy yr Uned Mân Anafiadau yn dychwelyd ebyn gwyliau'r Pasg.

Roedd y bwrdd yn deall y gallai'r newidiadau achosi anawsterau i nifer fechan o gleifion.

"Gan fod mwy o staff ym Mangor o ganlyniad i'r newidiadau bydd mwy o welyau ar gael er budd holl drigolion y gogledd orllewin, gan gynnwys Dwyfor.

"Heb y newidiadau mi fydden ni wedi wynebu'r risg o fethu diwallu'r anghenion o ran gofal brys ac fe fyddai hynny'n annerbyniol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol