Gethin Jenkins ar y rhestr anafiadau

  • Cyhoeddwyd
Gethin JenkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gethin Jenkins yn cael triniaeth i'w ben-glin yn erbyn Racing Metro

Mae prop y Gleision, Gethin Jenkins, wedi ymuno â rhestr anafiadau Cymru cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bu'n rhaid i Jenkins adael y maes gydag anaf i'w ben-glin yn ystod gêm y Gleision yn erbyn Racing Metro yng Nghwpan Heineken ddydd Sul.

Dywedodd hyfforddwr y rhanbarth, Gareth Baber: "Mae e wedi tynnu tennyn yn ei ben-glin. Fe fyddwn ni'n ei asesu dros y 24 neu 48 awr nesaf."

Ddydd Sadwrn fe gafodd Rhys Priestland a Dan Lydiate anafiadau fydd yn destun pryder i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Mae'r tri wedi eu henwi yng ngharfan 35 dyn Cymru a fydd yn cyrraedd Gwlad Pwyl ddydd Llun ar gyfer gwersyll ymarfer.

'Siomedig'

Gadawodd Jenkins y cae wedi 32 munud, ac roedd ei osgo wedi'r gêm yn awgrymu fod yr anaf yn destun pryder gwirioneddol.

Ychwanegodd Baber: "Nid yw gweld Gethin yn gadael y maes yn beth normal.

"Wedi'r gêm, roedd e'n siomedig nad oedd wedi medru gorffen y gêm ond hefyd y bydd rhaid iddo dreulio diwrnod neu ddau yn gofalu am ei goes."

Mae Dan Lydiate wedi cael trafferthion gyda'i ffer dros y misoedd diwethaf, a bu'n rhaid iddo yntau adael y maes wrth i'r Dreigiau guro Cavalieri Prato 45-16 yng Nghwpan Her Amlin.

Ond roedd Lydiate yn obeithiol y bydd yn holliach i wynebu Iwerddon ar Chwefror 5.

Dywedodd rheolwr y Dreigiau, Robert Beale: "Rwy'n clywed mai anaf i gefn y ffer yw hwn a dyna'r cyfan rydw i'n gwybod...well gen i aros i gael cyngor meddygol arbenigol."

Roedd prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, yn obeithiol hefyd am anaf Rhys Priestland wedi iddo yntau orfod gadael y cae wrth i'r rhanbarth guro Castres 16-13 nos Sadwrn.

Dywedodd Davies: "Mae hwyliau eitha' da arno fe yn yr ystafell newid.

"Mae'n cerdded o gwmpas felly gobeithio nad yw e'n rhywbeth rhy ddifrifol.

"Mae ei ben-glin yn dal yn boenus, ac fe fydd yn rhaid aros i weld beth ddaw."

Eisoes roedd gan Gymru amheuon am ffitrwydd Jamie Roberts - dyw'r canolwr heb chwarae ers diwedd Rhagfyr oherwydd anaf i'w ben-glin.