Eich lluniau chi o'r Urdd
- Cyhoeddwyd
Ers cenedlaethau mae miloedd o Gymry Cymraeg wedi mwynhau gweithgareddau amrywiol yn enw Urdd Gobaith Cymru.
Ers 1922 mae plant Cymru wedi mwynhau cymdeithasu a chystadlu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe gafodd yr Urdd ei sefydlu wedi i Syr Ifan ab Owen Edwards anfon gwahoddiad yn rhifyn mis Ionawr o Cymru'r Plant.
Roedd yn apelio arnyn nhw i ymuno â mudiad newydd a ddaeth yn Urdd Gobaith Cymru.
Ar Newyddion nos Fawrth fe ddangoswyd rhai lluniau o weithgareddau'r Urdd dros y blynyddoedd.
Os oes ganddoch chi luniau o'ch cyfnod chi gyda'r Urdd anfonwch nhw at newyddionarlein@bbc.co.uk gyda manylion, er mwyn eu cynnwys mewn oriel cyn diwedd yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol