Eich atgofion o'r Urdd drwy lun
- Cyhoeddwyd

Mae gan filoedd o bobl atgofion am weithgareddau gydag Urdd Gobaith Cymru. Dyma lun gafodd ei dynnu gan y ffotograffydd Geoff Charles ar Awst 22, 1947 o blant yn mwynhau'r môr tra yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Mae Lluniau Geoff Charles yn rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyma lun gan arall Geoff Charles o Eisteddfod yr Urdd yn Aberdâr yn 1961. Oes rhywun yn gwybod pwy ydi'r tri? Neu beth am anfon eich lluniau chi at newyddionarlein@bbc.co.uk wrth i fudiad yr Urdd ddathlu pen-blwydd yn 90 oed.

Oes rhywun yn adnabod y merched yma a oedd yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin yn 1967? Mae'r Urdd wedi rhoi cyfle amrywiol dros y 90 mlynedd diwethaf o ran gweithgareddau awyr agored, chwaraeon, cerddoriaeth, yr eisteddfodau a'r cyfan drwy'r Gymraeg.

Siwan Tomos anfodd y llun yma ar ôl i chwech o ddisgyblion o Sir Benfro fynd ar daith yr Urdd i Lesotho am bythefnos i adeiladu tai bach! Prosiect o'r enw Lle Chwech Gwell. Dywedodd Siwan "profiad gore' 'mywyd i. Diolch".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012