Ynni: Llywodraeth yn colli apêl

  • Cyhoeddwyd
Paneli solarFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y taliadau eu haneru ar Ragfyr 12

Mae Llywodraeth y DU wedi colli apêl yn achos polisi taliadau ynni haul.

Ym mis Rhagfyr dywedodd barnwr Uchel Lys fod gwendidau yng nghynlluniau'r llywodraeth i dorri cymorthdaliadau ar gyfer pobl oedd am osod paneli solar ar eu tai.

Roedd yr Ysgrifennydd Ynni, Chris Huhne, yn bwriadu torri'r cymorthdaliadau i unrhyw gynllun fyddai'n cael ei orffen wedi Rhagfyr 12, 2011.

Ond roedd y dyddiad 11 diwrnod cyn diwedd cyfnod ymgynghori'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd ar y cynllun a dywedodd Mr Ustus Mitting yn yr Uchel Lys y byddai gweithredu toriad felly yn anghyfreithlon.

Ni fydd Mr Huhne yn cael torri'r cymorthdaliadau - o 43.3 ceiniog i 21c - tan Fawrth 3 oni bai bod y llywodraeth yn mynd â'r apêl i'r Goruchaf Lys.

Derbyn dyfarniad

Mae Cyfeillion y Ddaear a dau gwmni ynni haul - Solarcentury a HomeSun - wedi galw ar y llywodraeth i dderbyn dyfarniad y llys a chaniatáu i'r diwydiant ynni haul ailafael yn y busnes.

Roedd elusen sy'n cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai cymunedol yng Nghymru wedi dweud y byddai "miloedd o denantiaid ar eu colled" wedi i Lywodraeth San Steffan haneru'r taliadau.

Mae cymdeithasau tai wedi bod yn datblygu prosiectau i osod paneli ar filoedd o dai eu tenantiaid yng Nghymru, gan fwriadu gostwng eu biliau ynni a lleihau eu hôl troed carbon.

'Ansicrwydd'

Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Ynni Adnewyddol, Gaynor Hartnell: "Roedd gweithred y llywodraeth a'r achos llys gyda'i gilydd wedi taflu cysgod o ansicrwydd dros y diwydiant solar.

"Rydym am roi'r mater tu cefn i ni a gweithio gyda'r llywodraeth a chefnogwyr i sicrhau cyllideb fwy ar gyfer cynhyrchu ynni haul ar raddfa fach."

Pe bai'r llywodraeth wedi ennill yr apêl, fe fyddai cynsail fyddai'n caniatáu i'r llywodraeth wneud newidiadau polisi ôl-weithredol fel lleihau taliadau i gynhyrchwyr ynni adnewyddol wedi iddyn nhw gomisiynu'r cynlluniau.

Ychwanegodd Ms Hartnell: "Y realiti yw bod y llywodraeth yn gwbl ymwybodol y byddai wedi bod yn annoeth iawn lleihau'r taliadau i gynhyrchwyr ar ôl comisiynu prosiectau, gan eu bod yn gwybod y difrod mawr y byddai hynny'n ei achosi."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd eu bod "yn ystyried opsiynau," gan gynnwys apelio yn y Goruchaf Lys.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol