Awema: Mwy o gwestiynau
- Cyhoeddwyd
Mae rhagor o gwestiynau yn cael eu holi ynglŷn â'r ymchwiliad swyddogol i honiadau yn erbyn yr elusen lleiafrifoedd ethnig Awema.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â'r elusen a'i brif weithredwr Naz Malik ond mae aelodau o'r wrthblaid yn cyhuddo'r llywodraeth o lusgo'u traed.
Dywed y Ceidwadwyr fod ganddynt bryderon am gysylltiadau rhwng y blaid Lafur a Mr Malik.
Mae'r elusen yn wynebu honiadau o anghysondebau ariannol.
Nos Wener fe ysgrifennodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad at y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Yn ei lythyr gofynnodd am sicrwydd y byddai'r ymchwiliad i Mr Malik yn un llawn a thryloyw.
Mae Llafur yn cyhuddo'r Ceidwadwyr o geisio eu pardduo.
Daw'r ffrae ar ôl i Paul Dunn, awdur adroddiad i weithgareddau Awema ddweud nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cysylltu ag ef ynglŷn â chasgliadau'r adroddiad.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gwblhau adroddiad eu hunain i Awema yr wythnos nesa.
Dywed Mr Malik, sydd hefyd yn wynebu honiadau o fwlian, y byddai'n amhriodol gwneud sylw cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Mae Andrew RT Davies yn ceisio ein pardduo - mae'n wleidyddiaeth fudur ac yn ceisio hawlio sylw yn y penawdau."
Fe wnaeth mab Mr Malik, Gwion Iqbal Malid sefyll ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Llafur yn etholiad y Cynulliad.
Ymhlith argymhellion Mr Dunn oedd atal Mr Malik o'i waith tra bod gwrandawiad ffurfiol i'r honiadau yn mynd yn ei flaen.
Mae Mr Malik yn dal yn ei swydd ar ôl derbyn rhybudd ysgrifenedig.
Mae'r elusen Awema yn ymdrin â £8.5 miliwn o arian cyhoeddus, gan ei ddosbarthu i grwpiau lleiafrifol ethnig ledled Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012